Bellach, gall clinigwyr yng Nghymru gysylltu â degawdau o hanes triniaeth cardiofasgwlaidd eu cleifion trwy Borth Clinigol Cymru (WCP).
Eleni, aeth rhyngwynebau pwysig yn fyw, gan alluogi i lythyrau clinigol a chanlyniadau diagnostig newydd ar gyfer cleifion â Chlefyd Cynhenid y Galon gael eu llwytho yng Ngwasanaeth Cofnodion Gofal Cymru (WCRS) a Gwasanaeth Adrodd Canlyniadau Cymru (WRRS) ac wedyn eu gweld trwy'r Porth.
Mae'r rhyngwyneb yn cysylltu â Cardiobase - y cyflenwr system ar gyfer Uned Clefyd Cynhenid y Galon De Cymru.
Erbyn hyn, trwy weithio gyda Cardiobase, mae gwerth 22 mlynedd o hanes triniaeth cleifion, gohebiaeth glinigol a chanlyniadau wedi cael eu llwytho hefyd, gan alluogi clinigwyr o bob cwr o Gymru i gael hanes mwy cyflawn o ofal eu claf.
Storfa dogfennau electronig yw'r WCRS sy'n safoni dogfennau - ffurflenni, cyfeiriadau, llythyrau, nodiadau achos, a llawer mwy - sy'n golygu y gall clinigwyr ar draws ffiniau'r sector iechyd fynd atynt, a'u gweld, a gellir eu harchwilio'n haws yn ogystal.
Storfa canlyniadau electronig ar gyfer profion diagnostig yw WRRS, sy'n galluogi defnyddwyr Porth Clinigol Cymru i weld adroddiadau diagnostig a phrofi ceisiadau ar gyfer eu cleifion, ni waeth ble yng Nghymru y cawsant eu llunio.
Bob mis, edrychir ar fwy na 37,000 o adroddiadau sy'n cael eu storio yn WRRS ledled Cymru gan ddefnyddio Porth Digidol Cymru.