Neidio i'r prif gynnwy

Prentisiaethau newydd mewn gwybodeg iechyd yn cael eu lansio

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau cyllid ar gyfer nifer o brentisiaethau gwybodeg iechyd drwy Athrofa Wybodaeth Ddigidol Cymru.

Mae Prentisiaeth Uwch (lefel 4) a Phrentisiaeth Gradd Ddigidol (lefelau 4 i 6) bellach ar gael i bobl sydd eisiau dilyn gyrfa mewn TG iechyd.


Lluniwyd Athrofa Wybodaeth Ddigidol Cymru fel rhan o bartneriaeth strategol rhwng Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (YDDS). Ei nod yw creu cyfleoedd a meithrin talent newydd mewn gwybodeg iechyd.
 
Mae'r brentisiaeth lefel 4, a ddarperir gan Goleg Sir Gâr, ar agor i'r rhai sy'n gweithio ym maes gwybodeg iechyd ar hyn o bryd, neu sy'n newydd i'r maes. Dyluniwyd y rhaglen i ddarparu llwybrau cynnydd clir i ystod eang o rolau lle mae trin gwybodaeth yn gyfrifoldeb allweddol.
 
Darperir y brentisiaeth radd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, ac mae'n cynnwys un diwrnod yr wythnos yn y brifysgol a phedwar diwrnod yn y gwaith gyda chyflogwr. Gall myfyrwyr ddewis o dri llwybr, gan gynnwys Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, Gwyddoniaeth Data Gymhwysol a Rheoli Seiber-ddiogelwch Gymhwysol. 
 
Meddai Wendy Dearing, pennaeth y gweithlu a chyfarwyddwr gweithrediadau Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: “Ers blynyddoedd mae timau gwybodeg wedi bod yn lluoedd anweladwy y tu ôl i’r gwasanaeth iechyd hyd at yn ddiweddar gan fod technoleg newydd a phwysigrwydd data cleifion bellach yn rheng flaen y GIG.” 
 
“Mae’r data dan sylw yn hanfodol i ofal cleifion ar draws Cymru gyfan felly rydym wrth ein boddau i fod yn uwchraddio sgiliau staff newydd a chyfredol gyda’r llwybr gyrfa hwn a chyfleodd newydd sbon ar brentisiaethau lefel uwch.”
 
Meddai Dr Jane Davidson, Pro Is-Ganghellor dros Ymgysylltu Allanol a Chynaliadwyedd y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Drindod Dewi Sant yn trawsnewid ei darpariaeth er mwyn cydweithio â chyflogwyr i greu’r cyfleoedd prentisiaeth gorau ym mhob maes i uwchraddio sgiliau busnesau a diwydiannau yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe. Rydym yn canolbwyntio ar ehangu cyfleoedd addysg uwch i bobl o bob oedran sy’n dymuno aros yma a gweithio yma. Mae’n bleser gennym lansio'r cyfleoedd prentisiaeth newydd ac edrychwn ymlaen at greu cyfleoedd pellach mewn peirianneg, adeiladwaith a’r diwydiannau creadigol – i gyd yn brif gyfleoedd gwaith yn ein rhan ni o Gymru - yn y dyfodol.”
 
Am ragor o wybodaeth am y cynlluniau prentisiaeth sydd ar gael drwy WIDI a grŵp YDDS, neu i ymholi am wneud cais, cysylltwch â wendy.dearing@wales.nhs.uk a apprenticeships@uwtsd.ac.uk os gwelwch yn dda