Ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fuddsoddiad sylweddol yng ngwasanaeth e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru wrth gychwyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Ers hynny, mae'r e-Lyfrgell wedi tyfu'n sylweddol ac wedi profi i fod yn adnodd cynyddol werthfawr i staff y GIG ledled Cymru.
Mae lawrlwythiadau wedi cynyddu'n sylweddol ac maen nhw'n parhau i wneud, gan brofi gwerth y buddsoddiad.
Yn ogystal ag ehangu adnoddau presennol, sicrhaodd y buddsoddiad fod ystod eang o ddeunyddiau newydd wedi'u hychwanegu at y llwyfan, gan gynnwys e-lyfrau. Mae'r rhain wedi cael eu gweld dros chwe mil o weithiau ers iddynt gael eu hychwanegu ym mis Hydref 2018. Mae'r teitlau mwyaf poblogaidd yn cynnwys Principles and Practice of Sleep Medicine, Musculoskeletal Imaging a Meyler's Side Effects of Drugs.
Nodwyd cynnydd mawr o ran diddordeb mewn offer sy'n cefnogi penderfyniadau clinigol a'r rheiny sy'n darparu canllawiau ar weithdrefnau, diagnosis, prognosis, triniaeth ac ataliaeth - offer megis BMJ Best Practice, DynaMed Plus, ClinicalKey a ClinicalKey Nursing.
Mae tîm yr e-Lyfrgell yn parhau i ddatblygu a hyrwyddo offer a gwybodaeth ar-lein er mwyn cefnogi addysg a datblygiad holl aelodau staff GIG Cymru. Gallwch ymweld â'r e-Lyfrgell ar Fewnrwyd GIG Cymru neu ar wefan yr e-Lyfrgell.