Neidio i'r prif gynnwy

Persbectif claf: sut mae digidol yn gwneud gwahaniaeth

Cysylltodd Gareth* o Gaerdydd â ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar i ddweud wrthym sut mae gwasanaethau digidol yn gwneud gwahaniaeth i ofal ei wraig.

Fel gofalwr amser llawn, am y 12 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn mynd gyda’i wraig Mary pan fydd yn mynychu ei hymgynghoriadau blynyddol gyda’r oncolegydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn ysbyty Felindre yng Nghaerdydd.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae wedi sylwi bod y meddyg wedi gallu cael mynediad at lawer mwy o wybodaeth, diolch i Borth Clinigol Cymru.

Dywedodd Gareth, sy’n gyn-weithiwr proffesiynol TG wrthym, “Yn ogystal ag edrych ar gofnodion fy ngwraig ynghylch ei arbenigedd, roedd y meddyg yn gallu edrych ar ganlyniadau ei meddyg teulu a chofnodion o arbenigeddau eraill, a chlinigau eraill yr oedd wedi eu mynychu yn y gorffennol, er mwyn cael dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o'i chyflwr iechyd fel cyfanwaith."

Fel gofalwr, mae Gareth wedi darganfod nad yw wedi gorfod ailadrodd cymaint o wybodaeth am fanylion ac iechyd ei wraig ag y bu’n rhaid iddo wneud yn y gorffennol, gan arbed amser a gwneud y broses yn llai ailadroddus: “Mae cymaint o’r wybodaeth ar gael mewn un lle iddyn nhw nawr. Mae wedi bod gymaint yn well ac mae wedi cael gwared ar rwystrau.”

Mae gan wraig Gareth sawl cyflwr i’w rheoli, gan gynnwys diabetes, ac o ganlyniad maent wedi profi’r gwasanaeth iechyd mewn llawer o wahanol leoliadau.  Mae'r gwelliannau wedi creu argraff dda arno yn ddiweddar.

Dywedodd ei bod yn “hyfrydwch llwyr” cael cymaint llai o waith papur i’w lenwi yn ystod apwyntiadau, ac mae wedi sylwi ar ostyngiad yn y camgymeriadau a wneir sy’n gysylltiedig â gwaith papur.

“Rwy’n credu bod hyn mor bwysig, gan fod llawer o bobl yn datblygu ystod o gyflyrau iechyd wrth iddynt heneiddio. Da iawn, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru!”

Rydym yn ddiolchgar iawn i Gareth am gysylltu â ni i ddweud wrthym am stori ei wraig. Gofynnwn i unrhyw un sy'n gwybod am brofiadau cadarnhaol tebyg gydag unrhyw un o'n gwasanaethau neu gynhyrchion digidol e-bostio nwis.enquiries@wales.nhs.uk 

*Newidiwyd yr enw i amddiffyn hunaniaeth y claf.