Lansiwyd y Nodyn Ymgynghoriad Diabetes yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd. Mae'r nodyn yn galluogi ymgynghorwyr diabetes, nyrsys arbenigol a dietegwyr i gofnodi a gweld gwybodaeth am gleifion ym Mhorth Clinigol Cymru (WCP).
Mae’r nodyn yn cadw’r manylion pwysicaf am glaf diabetig i gyd mewn un lle. Yn flaenorol, roedd gwybodaeth am ddiabetes yn cael ei chofnodi a’i chadw mewn ffeiliau ar wahân ac roedd yn anodd dwyn yr wybodaeth hon ynghyd. Gall y nodyn hefyd gael ei rannu â Meddyg Teulu’r claf.
Mae’n cynnwys darlleniadau, arsylwadau, diagnosisau, meddyginiaeth gan gynnwys triniaethau inswlin cymhleth, darlleniadau glwcos yn y gwaed, asesiadau clinigol a nodiadau clinigol. Mae’n dangos iddynt ganlyniadau profion patholeg diweddaraf y claf sy’n berthnasol i reoli’r cyflwr e.e. canlyniadau HbA1c. Gellir ei ddefnyddio i gefnogi sawl sefyllfa mewn gofal eilaidd gan gynnwys clinigau cleifion allanol, arosiadau cleifion mewnol, cysylltiadau ffôn ac addysg grŵp.
Rhyddhawyd y nodyn yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful am y tro cyntaf y llynedd. Dywedodd yr Ymgynghorydd Diabetes, Dr Gautam Das, ei fod yn ‘drawsnewidiol’ i’r ffordd y mae diabetes yn cael ei reoli yng Nghymru. Dywedodd, “Mae’n dod â’r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gysylltiedig â gofal diabetes dan yr un to ac mae’n sicrhau gofal didrafferth, symlach a di-dor i’n cleifion.”