Neidio i'r prif gynnwy

Nodwedd gwybodaeth arennol newydd ar y gweill ar gyfer Porth Clinigol Cymru

Ar hyn o bryd, mae crynodeb digidol o ofal cleifion arennol yn cael ei ddatblygu ar gyfer Porth Clinigol Cymru.

Bydd hyn yn golygu y bydd cleifion ar ddialysis yn cael cynnig gweld diweddariadau rheolaidd o'u gofal arennol drwy Borth Clinigol Cymru.

Bydd clinigwyr sydd â mynediad at Borth Clinigol Cymru yn gallu gweld diagnosis arennol claf, manylion am ei sesiynau dialysis diweddaraf, meddyginiaethau a roddwyd gan yr uned arennol a nodiadau clinigol o'r system arennol. Bydd hefyd yn cynnwys manylion cyswllt meddyg arennol a llawfeddyg y claf, yn ogystal â manylion ei dîm trawsblaniadau (os yn berthnasol).

Mae'r tîm arennol hefyd yn cyflwyno'r gallu i unedau dialysis gofnodi gwybodaeth am roi meddyginiaethau. Bydd hyn yn galluogi clinigwyr i weld rhestr o feddyginiaethau a roddwyd yn ddiweddar lle mae cyfleusterau'n bodoli.

Nod y nodwedd arennol newydd yw cefnogi cydweithwyr Gofal Sylfaenol ac Adrannau Argyfwng drwy roi gwybodaeth iddynt am ofal arennol claf, a fyddai fel arall y tu hwnt i'w cyrraedd yn uniongyrchol.

Mae'r crynodeb digidol o ofal arennol yn cael ei ddatblygu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, fel rhan o brosiect Cronfa Drawsnewid Llywodraeth Cymru ar ran Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru. Y bwriad yw sicrhau bod y crynodeb ar gael ar Borth Clinigol Cymru yn 2021.