Erbyn hyn, gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru weld delweddau o'u cleifion – fel pelydrau-X a sganiau MRI – trwy glicio ar un botwm yn unig.
O’r blaen, byddai'n rhaid i feddygon fynd trwy sawl system, neu aros i dderbyn copi caled neu sgan, pe bai'r delweddau'n cael eu tynnu mewn lleoliadau eraill. Nawr, mae delweddau pob claf ar gael, ni waeth ble mae’n derbyn gofal yng Nghymru.
Mae'n golygu y gall cleifion dderbyn gofal yn gyflymach, a gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gydweithredu'n haws ar y gofal gorau i gleifion. Dywedodd Eve Gallop-Evans, Ymgynghorydd yn Ysbyty Felindre, “Mae gallu gweld delweddau sgan o gleifion canser, ble bynnag maen nhw, yn hanfodol i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Gallaf roi barn ar addasrwydd ar gyfer triniaeth heb orfod gofyn am y sganiau perthnasol. Mae gallu gweld sganiau MRI yn hwyluso darparu radiotherapi brys y tu allan i oriau.”
Edrychir ar y delweddau trwy ddefnyddio Porth Clinigol Cymru – y system gwybodaeth cleifion genedlaethol a grëwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
Dywedodd Rhidian Hurle, Prif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru, “Mae'r swyddogaeth hon yn ei gwneud hi'n haws i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru weld yr hyn y mae angen iddynt ei weld i drin cleifion ni waeth ble y perfformiwyd y profion delweddu ac mae'n newyddion gwych i gleifion a GIG Cymru”
Mae Porth Clinigol Cymru yn un o'r systemau blaenllaw a ddatblygwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Ar 1 Ebrill 2021, mae'r Gwasanaeth yn dod yn sefydliad annibynnol o'r enw Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae'r Awdurdod Iechyd Arbennig yn nodi cyfnod newydd ar gyfer iechyd a gofal digidol yn GIG Cymru.
Mae Porth Clinigol Cymru yn gofnod cleifion digidol a ddefnyddir ar draws ysbytai a byrddau iechyd yng Nghymru. Gall meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol gael mynediad ato drwy ddefnyddio ap. Mae'r system bellach ar gael fel ap symudol, ac fe’i defnyddir ar hyn o bryd gan fwy na 27,000 o weithwyr iechyd proffesiynol yn GIG Cymru.