Mae meddygon teulu yng Nghymru yn cael mynediad i'r cofnod cleifion digidol cenedlaethol, Porthol Clinigol Cymru, a fydd yn gwella taith cleifion rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd. Hyd heddiw, nid yw'r system ond wedi bod ar gael i glinigwyr sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gofal ysbyty'r claf.
Detholiad o feddygon teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw'r cyntaf i dreialu'r gwasanaeth, a fydd yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol yn dibynnu ar lwyddiant y peilot.
Dywed Dr Niba Shah (uchod) o Glinig Foundry Town Aberdâr fod gallu edrych ar Borth Clinigol Cymru wedi bod yn "fendith" a'i fod wedi ei galluogi i "dreulio llai o amser yn chwilio am wybodaeth a gwasanaethau a mwy o amser yn canolbwyntio ar ofal cleifion."
Dywed Shah fod cael mynediad i Borth Clinigol Cymru yn caniatáu iddi weld canlyniadau hanesyddol ei chleifion yn ogystal â'u llythyrau atgyfeirio, rhyddhau a chlinigol trwy 'wyliwr dogfennau' y Porthol. Cyn hyn, nid oedd modd iddi gael mynediad i'r wybodaeth hon yn electronig ac yn aml roedd yn rhaid iddi dreulio amser yn mynd ar ôl manylion cleifion dros y ffôn.
"Y gwyliwr dogfen yw'r nodwedd bwysicaf i mi," meddai. "Rydych chi'n gallu gwirio nodiadau claf ar unwaith ac mae'n golygu nad ydych chi'n colli amser yn ffonio ysgrifenyddion a mynd ar ôl llythyrau sydd wedi mynd ar golli wrth gael eu cludo."
Weithiau, mae cleifion newydd yn ymuno â'r practis ac yn mynd i apwyntiadau heb eu hanes meddygol neu lythyrau clinigol. Oherwydd dyfodiad Porthol Clinigol Cymru, ni fydd yn rhaid i feddygon teulu olrhain yr hanes hwn mwyach oherwydd bod yr wybodaeth yn hygyrch iddynt yn electronig, waeth pa fwrdd iechyd y mae'r claf wedi derbyn triniaeth ynddo o'r blaen.
Dywed Dr Shah, "Bellach, dydyn ni ddim wedi ein cyfyngu i dderbyn gwybodaeth am gleifion yn ein practis neu ein bwrdd iechyd ein hunan." "Erbyn hyn, mae'r system yn un Gymru gyfan."