Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r dyfodol yn ddigidol i Borth Clinigol Cymru

Mae meddygon mewn dau fwrdd iechyd yn peilota fersiwn newydd, symudol o Borth Clinigol Cymru.

Mae app Porth Clinigol Cymru yn ddatblygiad arloesol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a fydd yn helpu’r gweithlu meddygol i weithredu tasgau dydd-i-ddydd yn fwy effeithiol.

Mae hi eisoes yn bosibl i weithwyr proffesiynol ledled Cymru weld dogfennau a chanlyniadau profion clinigol yn electronig mewn ysbytai trwy Borth Clinigol Cymru. Mae’r system yn darparu mynediad at wybodaeth cleifion o nifer o ffynonellau, i greu cofnod claf digidol.

Mae lansiad yr app yn golygu y bydd clinigwyr yn gallu cael mynediad at rywfaint o wybodaeth am eu cleifion wrth eu gwelyau gan ddefnyddio ffôn symudol.

Mae nodweddion allweddol yr app yn cynnwys awdurdodi dau ffactor i sicrhau mynediad diogel, y gallu i greu rhestrau gwylio cleifion, hysbysiadau o ganlyniadau i ddefnyddwyr, a rhestrau ‘i wneud’ er mwyn cefnogi gofal unedig cleifion.   

Dywedodd Katherine Lewis, Rheolwr Prosiect Cenedlaethol Porth Clinigol Cymru gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: “Ar hyn o bryd, dyma brawf cysyniadol sydd wedi’i gyfyngu i nifer fach o ddefnyddwyr ym myrddau iechyd prifysgolion Cwm Taf Morgannwg a Betsi Cadwaladr. Mae rhai yn defnyddio’i ffonau symudol ei hunain, tra bod eraill yn defnyddio dyfeisiau GIG Cymru.

“Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol ac rydym yn gwrando ar anghenion y clinigwyr rydym yn gweithio â nhw. O ganlyniad, rydym wedi integreiddio arbenigedd fel rhan o fersiwn nesaf yr app ac mae nifer o nodweddion wedi’u gwella. Bydd gwerthuso’r cynllun peilot hwn yn hollbwysig i gam nesaf y datblygiad.

“Rydym yn gwybod bod defnyddio technoleg newydd yn hanfodol o ran cefnogi’r broses drawsnewid ddigidol ac rydym eisiau rhoi’r wybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol sydd ei angen arnynt i wneud penderfyniadau, ac i wneud technoleg yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn hygyrch.”

Ar hyn o bryd, mae Porth Clinigol Cymru yn cynnal dros 18 miliwn o ddogfennau gofal, gan gynnwys atgyfeiriadau meddygon teulu, ymweliadau ag adrannau brys, clinigau cleifion allanol, nodiadau llawdriniaethau ac adroddiadau archwiliadau, yn ogystal â dros 108 miliwn o ganlyniadau profion patholeg.

Bydd diweddariad diweddaraf y fersiwn bwrdd gwaith yn cynnwys atgyfeiriadau ysbyty i ysbyty, sy’n golygu y bydd defnyddwyr yn gallu cael mynediad at wybodaeth manylach am daith y claf ar draws ysbytai a byrddau iechyd.