Yn dilyn dechrau'r pandemig coronafeirws, mae grwp gorchwyl a gorffen adrodd cymunedol cenedlaethol newydd wedi'i sefydlu.
Diben y grwp hwn yw datblygu a chipio'r gofynion data a gwybodaeth ynghylch coronafeirws ar gyfer gofal a wneir gan wasanaethau cymunedol ac ymateb ar y cyd.
Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r gwaith hwn.
Mae'r grwp, sy'n cael ei arwain gan Heidi Morris, Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Gymunedol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac aelod allweddol o System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn cyfarfod yn wythnosol. Mae'n cynnwys staff o fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol ledled Cymru.
Dyma'r prif gyflawniadau hyd yma:
Y camau nesaf nawr yw ymchwilio i ymarferoldeb diweddaru System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru gyda ffrwd electronig ddyddiol o ddata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch nifer y bobl sydd wedi marw o coronafeirws. Byddai hyn yn ddefnyddiol ar gyfer rheoli gwasanaethau gofal cymunedol i sicrhau bod gwybodaeth yn gyfredol a bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n briodol.
Bydd gwaith hefyd yn parhau i ddatblygu a gweithredu'r gofynion gwybodaeth sy'n dod i'r amlwg ar gyfer gwasanaethau yn y gymuned a amlinellir yn Neddf y Coronafeirws 2020 a basiwyd yn ddiweddar.
Mae'r Ddeddf wedi nodi canllawiau i Awdurdodau Lleol i sicrhau'r gofal gorau posibl i'r boblogaeth yn ystod yr amser eithriadol hwn. Bydd newidiadau i ddyletswyddau cynghorau o dan y Ddeddf Gofal yn eu galluogi i flaenoriaethu pobl sydd â'r anghenion gofal mwyaf a gwneud y defnydd gorau o'r gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion. Gallwch ddarllen mwy am y Care Act Easement: Guidance for Local Authorities yma.
Mae'r mesurau yn y bil coronafeirws yn rhai dros dro a byddant ar waith cyhyd ag y bo angen i ymateb i'r sefyllfa.