Mae nyrsys cymunedol yn ardal Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio dyfeisiau symudol i gyrchu Porth Clinigol Cymru, ac yn lleihau sawl gwaith y maen nhw'n dychwelyd i'w canolfan bob dydd.
Mae Prosiect Symudiadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn caniatáu i nyrsys gyrchu Porth Clinigol Cymru yn y gymuned yn y pwynt gofal. Gall y nyrsys weld demograffeg cleifion, canlyniadau gwaed a chrynodebau o gofnodion meddygon teulu.
Mae'r prosiect yn elfen allweddol o strategaeth Cyrchfan: Digidol (Destination: Digital) Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac mae'n flaenllaw mewn mabwysiadu rhaglenni cenedlaethol, gan gynnwys System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS).
Mae'r nyrsys wedi bod yn defnyddio iPads, offeryn adnoddau symudol, MobileIron, i gyrchu Porth Clinigol Cymru, a chymwysiadau eraill.
"Mae'n ardderchog gweld y prosiect hwn yn cael ei gyflwyno ar draws clystyrau, ac yn rhyddhau amser clinigol er mwyn i'r staff allu gwneud beth sydd o'r pwys mwyaf iddyn nhw, sef gweld y bobl yn y gymuned, a lleihau'r amser a dreulir wrth ddesg," meddai Pennaeth Nyrsio a Gwasanaethau Cymunedol Abertawe Bro Morgannwg, Tanya Spriggs.
Caiff y Prosiect Symudiadau ei ariannu trwy Gronfa Effeithlonrwydd trwy Dechnoleg Llywodraeth Cymru.'