Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tair gwobr yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU, Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS).
Seremoni wobrwyo BCS, a gynhelir fel digwyddiad rhithwir ym mis Medi eleni, yw’r gydnabyddiaeth flynyddol fwyaf sylweddol o ragoriaeth yn y sector technolegol. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y categorïau, ‘Y lle gorau i weithio ym maes TG’, ‘Prosiect gofal iechyd y flwyddyn’ a ‘Tîm TG y flwyddyn’.
Dywedodd Helen Thomas, ein Cyfarwyddwr Dros Dro: "Rydym yn falch o fod wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori yng Ngwobrau TG y DU eleni. Mae hyn yn cydnabod gwaith hynod o galed ein holl staff i ddarparu gwasanaethau digidol ardderchog i GIG Cymru, ac mae hefyd yn cydnabod ei fod yn sefydliad ardderchog i weithio iddo."
Am ragor o wybodaeth am y categorïau a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer, ewch i: https://www.bcs.org/more/awards-and-competitions/uk-it-industry-awards/uk-it-industry-awards-finalists-2020/