Honnir bod cytundeb sy’n torri tir newydd, a arwyddwyd heddiw rhwng dwy brifysgol fawr GIG Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yn garreg filltir sy’n cysylltu technoleg iechyd ac academia.
Mae Memorandwm Dealltwriaeth yn cyflwyno Prifysgol De Cymru i bartneriaeth gyfredol rhwng Prifysgol y Drindod Dewi Sant a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i gryfhau ymhellach yr Athrofa Wybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) a gofal iechyd digidol y sector cyhoeddus.
Mae’r bartneriaeth WIDI gyfredol wedi cynnig cyfleoedd gwych i staff GIG Cymru ymgymryd â chyfleoedd addysgiadol newydd, mewn technoleg iechyd, data a gwybodaeth. Mae’r trefniant newydd bellach yn ehangu’r cwmpas i gynnwys ymchwil.
Dywedodd Helen Thomas, Prif Weithredwr dros dro Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: “Bydd y cyfleoedd i ddatblygu perthnasoedd gweithio agosach byth â’r sefydliadau academaidd trwy WIDI yn ein galluogi i ddod yn bartneriaeth a all arwain y byd. Bydd hyn yn cynnig datblygiad staff sylweddol i bawb sy’n gweithio ym maes gofal iechyd digidol ac yn rhoi’r buddion i ni, fel sefydliad, o gael mynediad at arbenigwyr mewn ymchwil ac arloesi yma yng Nghymru ac ar y llwyfan byd-eang.
“Wedi sefydlu’r Awdurdod Iechyd Arbennig newydd, ‘Iechyd a Gofal Digidol Cymru’, ym mis Ebrill 2021, rwy’n hyderus y bydd y gynghrair WIDI yn mynd o nerth i nerth wrth iddi esblygu ac rwy’n edrych ymlaen at ehangu ein cydweithrediad â’n cydweithwyr yn y ddwy brifysgol mewn perthynas â mynd â’r agenda iechyd digidol yn ei blaen”.