Mae clinigwyr diabetes yn Ysbyty'r Tywysog Siarl bellach yn defnyddio'r Nodyn Ymgynghoriad Diabetes cenedlaethol i gofnodi a gweld manylion cleifion ym Mhorthol Clinigol Cymru.
Gellir gweld yr wybodaeth a gofnodir yn genedlaethol ar draws yr holl fyrddau iechyd gan sicrhau bod gwybodaeth allweddol mewn perthynas â rheoli diabetes cleifion ar gael i'r clinigwyr yn y pwynt gofal.
Mae ymgynghorwyr diabetes, nyrsys diabetes arbenigol a dietegwyr ymhlith y set gyntaf o ddefnyddwyr i elwa o'r ymarferoldeb yn y gwasanaeth diabetes i oedolion. Mae'r Nodyn Ymgynghoriad Diabetes yn eu galluogi i gofnodi a gweld darlleniadau, arsylwadau, diagnosisau, meddyginiaeth gan gynnwys triniaethau inswlin cymhleth, darlleniadau glwcos yn y gwaed, asesiadau clinigol a nodiadau clinigol. Mae hefyd yn dangos iddynt ganlyniadau profion patholeg diweddaraf y claf sy'n berthnasol i reoli'r cyflwr e.e. canlyniadau HbA1c. Gellir ei ddefnyddio i gefnogi sawl sefyllfa mewn gofal eilaidd gan gynnwys clinigau cleifion allanol, arosiadau cleifion mewnol, cysylltiadau ffôn ac addysg grwp.
Crëir dogfen .pdf o'r nodyn ymgynghoriad ym Mhorthol Clinigol Cymru, ac mae modd i glinigwyr ledled Cymru gael mynediad iddo drwy ddefnyddio'r system. Fel rhan o'r peilot gwreiddiol, mae ymgynghorwyr yn anfon dogfen .pdf at bractis meddyg teulu'r claf sy'n helpu i leihau'r oedi rhwng claf yn cael ei weld mewn clinig a meddyg teulu yn cael cofnod o'r hyn a drafodwyd. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i feddyginiaeth a thriniaethau inswlin.
"Bydd Ddatrysiad Gwybodaeth Cymru ar gyfer Rheoli Diabetes (WISDM) yn flaengar a bydd yn arwain at newid paradeim yn y ffordd rydym yn rheoli diabetes ac yn cynnal cofnodion meddygol. Bydd yn dod â'r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gysylltiedig â gofal diabetes dan yr un to a bydd yn sicrhau gofal didrafferth, symlach a di-dor i'n cleifion. Bydd hefyd yn gwella cyfathrebu rhwng gweithwyr proffesiynol ac yn helpu i leihau camgymeriadau. Yn ogystal, gall y data a storir gael eu defnyddio'n eang ar gyfer dibenion hyfforddi, archwilio ac ymchwil. Mewn byd digidol, mae hyn yn hanfodol a dyma'r ffordd ymlaen." Dr Gautam Das - Ymgynghorydd Diabetes yn Ysbyty'r Tywysog Siarl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Tafl
Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg fydd yr ysbytai nesaf i fabwysiadu'r Nodyn Ymgynghoriad Diabetes. Podiatryddion fydd y clinigwyr nesaf i'w ddefnyddio, ac yna'r gwasanaethau pediatreg a chynenedigol diabetes. Yna rhagwelir y bydd yn cael ei gyflwyno yn genedlaethol er mwyn i bob clinigwr diabetes ledled Cymru gael ei ddefnyddio.