Ar 1 Ebrill, bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn newid i fod yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a fydd yn Awdurdod Iechyd Arbennig newydd. Mae hwn yn newid pwysig, sydd wir yn dod ar yr adeg iawn yn fy marn i. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld pa mor hanfodol bwysig yw technoleg i gefnogi ymateb GIG Cymru i COVID-19. A dweud y gwir, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at y rôl ehangach y gall technoleg ei chwarae wrth gefnogi a gwella ein gwasanaethau iechyd a gofal. Mae wedi newid ymddygiadau, mae wedi cyflymu nifer y bobl sy'n ymgymryd â gwasanaethau ac mae hefyd wedi sbarduno datrysiadau digidol newydd. Mae ymgynghoriadau rhithwir, mynediad o bell at y cofnod iechyd sengl a gwasanaethau data uwch yn helpu pob un ohonom i ddod drwy sefyllfa anodd. Felly, yn ystod yr argyfwng hwn, mae wedi bod yn werth chweil derbyn adborth cadarnhaol gan ein defnyddwyr a'n rhanddeiliaid. Fel y gwyddwn, mae technoleg iechyd yn wasanaeth craidd ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru, ac mae'r systemau a'r gwasanaethau TG rydym wedi'u datblygu a'u darparu dros y degawd diwethaf yn dal i fod yn hanfodol wrth redeg gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru o ddydd i ddydd. Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i ddatblygu a gwella ein datblygiad craidd a'n gwasanaethau gweithredol, gyda'r nod o gefnogi symud a mynediad at ddata a gwybodaeth ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a chleifion. Fy mwriad diffuant yw y byddwn yn parhau â'r daith hon gyda'n gilydd, gan weithio gyda'n partneriaid mewn ysbytai, byrddau iechyd, gofal sylfaenol ac mewn diwydiant i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau digidol. Ar ddechrau'r newid mawr hwn, hoffwn ddiolch i staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac i'n partneriaid am eu cyfraniad a'u mewnbwn hyd yma. Rydym mewn sefyllfa ardderchog i symud ymlaen, fel un o'r ychydig genhedloedd sydd â chofnod digidol cenedlaethol integredig i gefnogi gofal cleifion, ac sydd ar gael ar draws yr holl leoliadau gofal. Ond mae cymaint mwy i'w wneud a bydd angen i ni sicrhau ein bod yn gallu cwrdd â'r her hon, a hynny gyda'n partneriaid. Mae creu Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ddigwyddiad sylweddol gan ei fod yn nodi newid mewn pwyslais ac yn gosod ffocws cryf ar y gwasanaethau technoleg a data cenedlaethol y mae eu hangen arnom heddiw. Technoleg a data sy'n canolbwyntio ar integreiddio ac ar ddeallusrwydd artiffisial, ac sy'n gwneud y gorau o wasanaethau digidol a yrrir gan ddefnyddwyr. Mae technoleg ym maes iechyd a gofal yn esblygu, ac mae hynny'n ffaith. Fel Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ni allai fod amser gwell i fod yn rhan o'r sector hwn ac i arwain y sefydliad iechyd digidol cenedlaethol newydd wrth iddo sefydlu ei hun yn rhan annatod o deulu GIG Cymru. Rwyf wir wedi fy nghyffroi gan y cyfleoedd sy'n ein hwynebu - nid yn unig ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru ond ar gyfer yr hyn y bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gallu ei gyflawni dros y GIG ac, yn y pen draw, dros gleifion Cymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ac at gefnogi Bob Hudson, ein Cadeirydd Dros Dro, yn ogystal â'r Bwrdd newydd dros y misoedd nesaf. Cyhoeddwyd gyntaf: 26/02/2021 |