Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) wedi penderfynu mai SOS Children's Villages fydd ei elusen eleni. Penderfynwyd hyn ar ôl i ddau aelod o staff, Alan Owens a Neil Kitching, ymweld â Lesotho i ddarparu hyfforddiant TG a data. Tra'r oeddent yno, gwelon nhw ddau brosiect yr oedd angen cefnogaeth ariannol arnynt; hwb dysgu cymunedol wedi'i leoli mewn SOS Children's Village a chanolfan ddysgu o bell a amlygwyd gan Dolen Cymru.
Cyn y pandemig, roedd digwyddiad beicio elusennol yn cael ei drefnu a fyddai wedi cael ei gynnal ym mis Gorffennaf i godi arian ar gyfer SOS Children’s Villages. Oherwydd y newid mewn amgylchiadau a achoswyd gan y pandemig, daeth hwn yn ddigwyddiad rhithwir y gallai pawb gymryd rhan ynddo, mewn unrhyw ffordd a ddewisent. Y nod oedd teithio cylchedd Lesotho 30 gwaith (16,950 milltir). Gofynnwyd i staff gyfrannu arian, ac yna cerdded, rhedeg neu feicio cynifer o filltiroedd â phosibl drwy gydol mis Gorffennaf. Anogwyd pawb a gymerodd ran i enwebu 5 person arall i gymryd rhan.
Gyda'n gilydd, llwyddwyd i godi swm sylweddol o £1,770 a chwblhau 11,780 milltir trwy amrywiaeth o gerdded, beicio a rhedeg. Bydd yr arian a godir yn mynd i SOS Children's Villages, a fydd yn ei ddefnyddio i ddechrau datblygu hwb dysgu cymunedol ym mhentref y plant yn Lesotho.
Os na chawsoch gyfle i gyfrannu, mae dal amser i chi allu gwneud hynny. Ewch i’r dudalen JustGiving er mwyn cyfrannu.