Lansiwyd Cofnod Gofal Nyrsio Cymru mewn sawl bwrdd iechyd ledled Cymru. Mae'r prosiect yn trawsnewid dogfennaeth nyrsio trwy safoni ffurflenni, a'u troi'n ddigidol.
Bydd fformatau dogfennau newydd ar gael i nyrsys ar ffurf papur a digidol, ar gyfer asesiadau risg ac asesiadau cleifion mewnol i oedolion.
Mae cael ffurflenni ar ffurf ddigidol yn golygu y bydd nyrsys yn gallu cwblhau asesiadau wrth erchwyn gwely'r claf ar gyfrifiaduron tabled, neu ddyfeisiau llaw eraill.
Mae'n cael ei dreialu ar sawl ward trwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth, mewn lleoliadau ledled Cymru. Ar ôl gwerthuso, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn bydd y ffurflenni digidol ar gael i bob ardal.
Mae nyrsys a chydweithwyr amlddisgyblaethol o bob bwrdd iechyd wedi bod yn rhan o'r rhaglen ac wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ers dros ddwy flynedd i safoni'r ffurflenni a chreu'r broses ddigidol. Cyflogir Arweinydd Nyrsio Clinigol ym mhob bwrdd iechyd ac mae'n arwain y broses o gyflwyno'r dogfennau newydd.