Mae mwy o bractisiau meddygon teulu bellach yn dewis defnyddio ceisiadau am brofion electronig ers cyhoeddi'r ap ceisiadau am brofion 'GPTR'.
Mae perfformiad a chyflymder cael mynediad i'r ap a'i ddefnyddio wedi gwella'n fawr - gyda phractisiau bellach yn gallu cael mynediad uniongyrchol i'r system.
Mae practisiau sy'n defnyddio systemau EMIS yn gallu cysylltu â'r GPTR yn uniongyrchol drwy'r eicon Draig, ac mae'n ymddangos yng nghwymplen y practisiau sy'n defnyddio Vision.
Gyda miloedd o brofion gwaed yn cael eu cymryd bob wythnos yng Nghymru, mae GPTR yn helpu i brosesu canlyniadau yn gynt. Gwnaed ceisiadau am brofion ar bapur gan fwyaf tan yn ddiweddar, ond nawr mae staff yn gallu prosesu'r ceisiadau a chael y canlyniadau yn ddigidol. Aneurin Bevan yw'r bwrdd iechyd sydd wedi perfformio orau ar gyfer y system eleni, gyda 52 o bractisiau yno'n defnyddio'r cymhwysiad llawn.
Dywedodd Gaynor Pick, Rheolwr Practis Canolfan Iechyd Underwood, Casnewydd: "Mae pawb yn y practis yn falch iawn ein bod wedi newid a fydden ni ddim eisiau bod hebddo nawr."