Neidio i'r prif gynnwy

Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yn cael ei henwi'n Athro Ymarfer

Mae Helen Thomas wedi cael ei henwi’n Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Dyfarnwyd y broffesoriaeth gan Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn ystod digwyddiad rhithwir i nodi ehangu rhaglen sgiliau Athrofa Wybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI).  Bellach, mae Prifysgol De Cymru yn ymuno â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gydweithio ar y rhaglen Athrofa Wybodaeth Ddigidol Cymru.

Dywedodd Helen “Mae’n bleser ac yn anrhydedd cael fy enwi’n Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Rwy’n edrych ymlaen at allu rhannu rhywfaint o’m profiad â’r myfyrwyr wrth iddynt gychwyn ar eu haddysg mewn gwybodeg iechyd ac at gryfhau ein perthynas gyda’r brifysgol ymhellach.”

I weld y stori lawn ar y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, cliciwch yma.

 

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/12/20