Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud Gwybodaeth am Ofal Critigol yn Ddigidol

Mae cynlluniau ar droed i ddisodli papur gyda system ddigidol yn unedau gofal critigol Cymru.

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cynnal ymarferiad caffael ar gyfer System Gwybodaeth Gofal Critigol a fydd yn tynnu data’n awtomatig o’r llu o ddyfeisiau ymyl gwely a ddefnyddir i gefnogi’r claf.  Mae’r rhain yn cynnwys monitorau, peiriannau anadlu a phympiau trwytho ymyl gwely.

Yn nodweddiadol, gall claf sy’n gritigol wael fod yn destun monitro mynych a pharhaus mewn perthynas â dwsinau o baramedrau corfforol a biolegol, gan gynhyrchu data aruthrol a gofnodir ar nodiadau a siartiau papur. Bydd cyflwyno system ddigidol yn mireinio’r broses hon, yn lleihau niwed ac amrywiant.

Ar hyn o bryd, mae Cymru’n defnyddio system ddigidol mewn dwy uned gofal critigol. Bydd yr ymarferiad caffael yn sicrhau un system i’w defnyddio ledled Cymru. Y cwmpas cychwynnol yw 200 o welyau gofal critigol Cymru, gyda’r opsiwn i gynyddu hyn dros gyfnod saith mlynedd y contract.

Bydd angen i’r system ddigidol newydd integreiddio gyda phensaernïaeth GIG Cymru a chysylltu â gwasanaethau cenedlaethol, gan gynnwys Porth Clinigol Cymru a’r System Gweinyddu Cleifion Cymru.

Bydd yr ymarferiad caffael yn cael ei oruchwylio gan fwrdd caffael gyda chynrychiolwyr ar draws Rhwydwaith Gofal Critigol Cymru gyfan, ac mae’n cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol ac arbenigwyr technegol.

Rhagwelir y bydd yr ymarferiad caffael wedi’i gwblhau erbyn diwedd 2019, ac yna bydd yn cael ei gyflwyno fesul cam gan ddechrau gyda’r Ganolfan Gofal Critigol Arbenigol newydd (Ysbyty Athrofaol y Grange) sy’n cael ei hadeiladu i wasanaethu Bwrdd Iechyd Athrofaol Aneurin Bevan.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymarferiad caffael ar gael ar wefan GwerthwchiGymru https://www.sell2wales.gov.wales/search/show/Search_View.aspx?ID=MAY296095