Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru'n ennill gwobr arloesi

Enillodd tîm gwasanaeth ‘Dewis Fferyllfa’ Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru y categori arloesi a thechnoleg yng Ngwobrau’r Gwarcheidwaid Gwrthfiotig. Cynhaliwyd y seremoni ym mis Mehefin 2019 i ddathlu gwaith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled y DU a thramor o ran mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Enillodd y tîm y wobr am eu gwaith yn datblygu’r modiwl Profi a Thrin Gyddfau Tost, sydd wedi cael ei beilota’n ddiweddar gan fyrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg a Betsi Cadwaladr.

Mae’r rhaglen ‘Dewis Fferyllfa’ ar gael yn 98% o fferyllfeydd cymunedol Cymru. Mae’r gwasanaeth newydd yn rhan o’r Cynllun Anhwylderau Cyffredin i gefnogi cleifion ar draws pob bwrdd iechyd i reoli cyflyrau cyffredin, yn hytrach na gorfod gweld meddygon teulu. Gall fferyllwyr asesu symptomau cleifion â gyddfau tost trwy gynnal archwiliad gwddf tost, sy’n cynnwys prawf swab gwddf syml i’r rheiny sydd â symptomau sy’n awgrymu bod ganddynt haint bacteriol. Bydd canlyniadau’r profion ar gael o fewn deg munud a byddant yn helpu fferyllwyr a chleifion i benderfynu ar y driniaeth orau, gan gynnwys gwrthfiotigau lle y bo’n briodol, a chyngor i reoli’r symptomau.

Dywedodd Cheryl Way, Arweinydd Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau Cenedlaethol: “Mae’r gwasanaeth Profi a Thrin Gyddfau Tost yn sicrhau bod cleifion yn cymryd gwrthfiotigau pan fod gwir angen gwneud yn unig, a heb roi pwysau ychwanegol ar feddygon teulu er mwyn cael rhagnodyn. ”

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae hwn yn gyflawniad pwysig oherwydd bod y gwobrau hyn yn cynnig cyfle arbennig i hyrwyddo sefydliadau ac unigolion sydd wedi cefnogi’r ymgyrch Gwarcheidwaid Gwrthfiotig a llwyddo o ran eu gwaith i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd, un o’r bygythiadau mwyaf i iechyd byd-eang.”

Ychwanegodd Cheryl Way: “Mae’r dull gwaith cydweithredol rhwng fferyllwyr, meddygon teulu, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac asiantaethau eraill wedi sicrhau llwyddiant, ac mae’n dangos sut mae technoleg yn gallu cefnogi fferyllwyr cymunedol i gyflenwi gwasanaethau gwell.”

Ariannwyd datblygiad y gwasanaeth gan Lywodraeth Cymru. Bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn awr yn dechrau paratoi i sicrhau bod y modiwl Profi a Thrin Gyddfau Tost yn barod i gael ei gyflwyno’n genedlaethol.