Mae Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru bellach ar gael ar draws Gofal Sylfaenol a fydd yn cynnwys gwasanaethau Deintyddol, Ymarfer Cyffredinol, Optometreg a Fferylliaeth.
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yn cynnal sesiynau hyfforddi o bell ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn defnyddio'r gwasanaeth hwn neu sy'n dymuno ymgymryd â hyfforddiant gloywi. Cynhelir sesiynau hyfforddi ar 17, 18 a 19 Tachwedd am 1pm trwy Microsoft Teams. Mae’r sesiynau wedi'u hanelu at rolau clinigol a gweinyddol. Ni fydd pob sesiwn yn para mwy na 45 munud.
Llenwch Ffurflen Gais Gweminar Hyfforddi Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru i gadw eich lle.
Bydd pob sesiwn hyfforddi yn cael ei chynnal dros Microsoft Teams felly bydd angen i bawb fydd yn mynychu fod â dyfais sy'n addas i ymuno â'r cyfarfod, ynghyd â seinydd, meicroffon neu glustffonau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag NWIS drwy anfon e-bost at gpict@wales.nhs.uk neu i gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Ymgynghori Fideo, ymwelwch ag https://digitalhealth.wales/tec-cymru/vc-service/i-am-clinician
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/11/20