Gwasanaeth digidol newydd yn cefnogi fferyllfeydd lleol i ragnodi O fis Mehefin 2020, bydd modiwl newydd o'r ap Dewis Fferylliaeth, y Gwasanaeth Rhagnodwyr Annibynnol (IPS), yn cefnogi fferyllwyr cymunedol sydd wedi cymhwyso fel rhagnodwyr anfeddygol i roi cyngor a thriniaeth effeithiol i gleifion sydd â chyflyrau penodol. Mae'n rhan o'r platfform digidol Dewis Fferylliaeth sy'n ehangu, a ddatblygwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, sy'n cynnwys gwasanaethau megis atal cenhedlu brys, gwasanaeth i drin anhwylderau cyffredin ac adolygiad o feddyginiaethau wrth ryddhau. Bydd darparu'r gwasanaeth hwn, trwy'r gwasanaeth digidol Dewis Fferylliaeth, yn galluogi fferyllwyr i gofnodi'r ymgynghoriad, creu crynodeb meddyg teulu a/neu lythyrau atgyfeirio a chreu hanes y claf, sy'n symud gyda'r claf os yw'n newid fferyllfeydd. Er mwyn llywio penderfyniadau, bydd fferyllwyr sydd wedi cymhwyso fel rhagnodwyr anfeddygol yn cael mynediad at Gofnod Meddyg Teulu Cymru digidol y claf. Mae hyn yn cynnwys crynodeb o wybodaeth bwysig, fel meddyginiaeth gyfredol, profion diweddar ac alergeddau. Bwriad y gwasanaeth yw darparu mynediad amserol at gyngor i gleifion a lleihau'r galw am ymgynghoriadau gyda meddygon teulu sy'n ymwneud â chyflyrau perthnasol a phenodedig. Mae fferyllfeydd cymunedol yn un o'r darparwyr rheng flaen allweddol y gall pobl fynd atynt os oes angen gofal brys arnynt, gan leihau'r pwysau ar feddygon teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Dywedodd Emma Williams, Arweinydd Clinigol Dewis Fferylliaeth, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: "Mae'r Gwasanaeth Rhagnodwyr Annibynnol yn cefnogi model gofal 'fferylliaeth gymunedol yn gyntaf'. Mae hyn yn golygu y bydd gan gleifion fwy o fynediad at gyngor a thriniaeth ar yr adeg iawn, yn y lle iawn, gan leihau'r pwysau ar feddygon teulu i gynnig ymgynghoriadau am gyflyrau y gellir eu rheoli'n briodol trwy fferyllfeydd cymunedol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn ystod yr argyfwng gofal iechyd presennol gan fod sicrhau bod mwy o fynediad ac opsiynau ar gyfer gofal cleifion yn bwysicach nag erioed." Yn dilyn cyhoeddiad diweddar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ystod o fesurau i wella mynediad at offer digidol ar gyfer Fferyllfeydd Cymunedol yng Nghymru, gwnaeth Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru, sylwadau ar y modiwl newydd, "Mae rhyddhau'r modiwl hwn yn gam sylweddol tuag at ein huchelgais i alluogi llawer mwy o fferyllwyr mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau clinigol mewn ffordd sy'n defnyddio eu harbenigedd orau ac sydd wedi'i integreiddio o ddifrif â gweddill gofal sylfaenol." Bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cynnal gwerthusiad braenaru tua diwedd eleni, a fydd yn llywio argymhellion ar gyflwyno'n genedlaethol. |