Mae GIG Cymru wedi llofnodi cytundeb menter newydd gyda Microsoft a fydd yn cryfhau ei amddiffyniadau yn erbyn ymosodiadau seiber, ac yn rhoi mynediad i Office 365 i dros 100,000 o staff GIG Cymru.
Mae’r cam hwn yn cynnig yr offer a’r galluoedd cadarn a modern sydd eu hangen er mwyn galluogi ffyrdd newydd o weithio a chydweithio gwell.
Hefyd, bydd modd i feddygon teulu, ymgynghorwyr, nyrsys, therapyddion, parafeddygon a staff cymorth gyfathrebu a rhannu gwybodaeth yn ddiogel yn haws o fewn y GIG a’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, gan ddefnyddio Office 365.
Dywedodd Andrew Griffiths, sef Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: “Mae’r cytundeb cenedlaethol newydd yn rhan o’n hymrwymiad i adnewyddu seilwaith TG GIG Cymru a sicrhau ei fod yn cefnogi’r newidiadau trawsnewidiol sy’n digwydd ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n symud ein hystâd ddigidol oddi wrth wasanaethau a reolir yn lleol ac i wasanaethau’r cwmwl, gan gyflwyno effeithlonrwydd ac arbedion maint.
“Mae’r staff rheng flaen sy’n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd a gofal yn dibynnu ar dechnoleg i’w helpu i ddarparu gwasanaethau mewn ffyrdd arloesol, newydd sy’n rhoi anghenion y cleifion yn gyntaf. Felly, rwy’n falch iawn y gallwn gyflenwi’r offer diweddaraf i staff GIG Cymru i’w helpu gyda’r gwaith gwych maen nhw’n ei wneud bob dydd.”
Mae Office 365 yn cefnogi gweithio o bell ar draws sawl dyfais, fel ffonau, llechi cyfrifiadurol a gliniaduron, sy’n esgor ar gyfleoedd i gydweithio heb fod angen teithio, a’r potensial ar gyfer dulliau newydd o frysbennu ac ymgynghori trwy fideo-gynadledda a chyfryngau integredig.
I gryfhau gwydnwch seiber ymhellach, mae’r cytundeb yn cynnwys diweddaru i Windows 10 E5, sef system weithredu Microsoft, sy’n cynnwys y nodweddion diogelwch diweddaraf, fel Gwarchodaeth rhag Bygythiadau Uwch, sy’n eich diogelu yn erbyn y bygythiadau seiber niferus sy’n newid o hyd.
Dywedodd Andrew Griffiths: “Mae’n hollbwysig bod gan GIG Cymru systemau diogel y mae staff iechyd a chleifion yn gallu ymddiried ynddynt, a bydd y cytundeb hwn yn ein helpu i gyflawni hynny. Bydd yn ein gwneud yn fwy gwydn ac yn golygu y bydd ein gwasanaethau’n rhedeg ar y system weithredu ddiweddaraf posibl bob amser.”
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
“Rwy’n falch iawn y cytunwyd ar y cytundeb newydd hwn. Bydd yn sicrhau y bydd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru fynediad gwell i dechnoleg ddiogel ac offer cydweithio sy’n eu galluogi i gyfathrebu’n ddiogel ac yn hawdd a chryfhau ein cydnerthedd i fygythiadau seiber.
“Mae defnyddio technoleg i wella’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhan allweddol o’n gweledigaeth tymor hir ar gyfer GIG Cymru a nodir yng nghynllun Cymru Iachach, a bydd yn helpu staff rheng flaen i ddarparu’r gofal gorau posibl i gleifion”
Mae’r cytundeb £39 miliwn gyda Microsoft yn rhedeg am dair blynedd. Mae cytundeb menter blaenorol GIG Cymru gyda Microsoft yn dod i ben ar 30 Mehefin 2019. Bydd y gwasanaeth Office 365 newydd yn dechrau cael ei gyflwyno ar 1 Gorffennaf, 2019.
Cafodd y cytundeb rhwng Microsoft a GIG Cymru ei froceru gan TrustMarque, sef partner trwyddedu GIG Cymru a Microsoft.