Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru yn creu adnodd data cenedlaethol blaenllaw

Mae adnodd data cenedlaethol (NDR) yn cael ei ddatblygu i alluogi GIG Cymru yn well i wella profiad cleifion a chanlyniadau gwasanaethau.  

 

Nod NDR yw dod â data cleifion at ei gilydd mewn un man, gan ddefnyddio safonau technegol ac iaith gyffredin. Bydd yn gwella'r ffordd y caiff data ei gasglu, ei rannu a'i ddefnyddio ar draws sefydliadau iechyd a gofal yng Nghymru, a bydd yn datblygu gallu i ryngweithredu'r systemau iechyd a gofal.

 

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wrthi'n gweithio gyda byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a rhanddeiliaid eraill i gyflwyno'r prosiect uchelgeisiol.

 

Yn hytrach na bod y data'n cael ei storio ar wahân ar draws systemau a chronfeydd data gwahanol, bydd yr NDR yn darparu un man i gyrchu data cyson gan glinigwyr, rheolwyr gweithredol, gwyddonwyr data, a defnyddwyr eraill.
 

"Yn y pen draw, bydd yr NDR yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i redeg GIG Cymru a fydd yn fwy effeithlon, arloesol a chynhyrchiol. Bydd yn gwella ansawdd ac yn atgyfnerthu cysondeb yr holl ddata iechyd a gofal cymdeithasol - gan wneud adolygu a chymharu canlyniadau gwasanaethau gofal lawer yn haws."

                                                                                      Dr John Peters, Meddyg Ymgynghorol ac
                               Arweinydd Strategol GIG Cymru ar gyfer y Ffrwd Gwaith Arloesi a Gwella

 

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wrthi'n gweithio tuag at ddyddiad cwblhau ym mis Rhagfyr 2020, i'r NDR fod yn gyfan gwbl weithredol a hygyrch.