Heddiw, mae GIG Cymru wedi canslo ei gontract gyda Microtest Limited trwy gydgytundeb, oherwydd oedi parhaus wrth gyflenwi ei feddalwedd glinigol i bractisiau meddygon teulu yng Nghymru.
Ym mis Ionawr 2018, roedd Microtest Limited yn un o ddau gyflenwr systemau TG meddygon teulu i gael eu dyfarnu ar Fframwaith i ddarparu meddalwedd glinigol i feddygon teulu Cymru, yn dilyn caffaeliad a wnaed gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ar ran Bwrdd Rhaglen Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) a Byrddau Iechyd.
Roedd Microtest Limited i fod i ddarparu ei systemau clinigol i bractisiau meddyg teulu Cymru o fis Ionawr 2019, o dan gyfnod o bum mlynedd, gyda'r opsiwn i ymestyn am hyd at ddwy flynedd arall.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: “Ni allai Microtest ddarparu’r feddalwedd glinigol letyol a chwrdd â gofynion integreiddio GIG Cymru o fewn yr amserlenni a fyddai’n caniatáu i feddygfeydd teulu drosglwyddo o’r trefniadau cytundebol blaenorol.
“Ni ddaethpwyd i’r penderfyniad i ddod â’r contract i ben heb ystyriaeth ddwys. Roedd sawl ffactor yn cyfrannu, gan gynnwys yr effaith yr oedd yr oedi yn ei chael ar bractisiau wrth gynllunio ar gyfer eu mudo i system newydd.
“Rydym yn hynod siomedig gyda'r canlyniad hwn ond dyma'r ffordd orau o weithredu i feddygon teulu Cymru, staff y practisiau a'r cleifion maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Bwrdd Rhaglen Rheoli Gwybodaeth a Thechnegol Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol wedi ymrwymo i ddarparu meddalwedd glinigol a fydd yn gwella ac yn cefnogi gwaith hanfodol meddygon teulu yng Nghymru. ”
Gan na weithredwyd y system, nid yw GIG Cymru wedi gwneud unrhyw daliadau gwasanaeth i Microtest.
Bydd meddygon teulu yn parhau â'u systemau TG clinigol cyfredol, hyd nes y bydd adolygiad o systemau clinigol meddygon teulu yng Nghymru y rhagwelir y bydd wedi'i gwblhau ym mis Ionawr 2020.
Dywedodd Dr Phil White, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru:
“Mae Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru yn gwbl gefnogol i benderfyniad GIG Cymru i ddod â’i gontract gyda Microtest Limited i ben.
“Mae Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru wedi chwarae rhan lawn yn y broses gaffael, ac wedi tynnu sylw yn gyson at yr effaith roedd oedi annerbyniol yn ei chael ar bractisiau wrth gynllunio ar gyfer symud at system newydd.
“Rydym yn parhau i ymrwymo i fod yn rhan o’r broses ymgynghori i sicrhau bod barn y proffesiwn yn cael ei chynrychioli a bod systemau TG clinigol nid yn unig yn addas i’r diben, ond yn gwella a chefnogi arferion gwaith meddygon teulu yng Nghymru.”