Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru ar flaen y gad o ran gofal sy'n seiliedig ar ddata

Mae dangosfyrddau data sy’n canolbwyntio ar gyflwr yn cael eu datblygu gan GIG Cymru i daflu goleuni ar ganlyniadau cleifion, ac i nodi amrywiadau mewn gofal.

Mae dadansoddwyr ac arbenigwyr technegol o Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn adeiladu’r dangosfyrddau i gefnogi rhaglen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, gan weithio ar y cyd â chlinigwyr, Llywodraeth Cymru a’r Uned Cyflenwi Cyllid.

Mae’r rhaglen yn gosod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi i gefnogi gwerth mewn iechyd, sy’n ymwneud â chyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’r claf gyda’r adnoddau sydd ar gael.

Mae dangosfyrddau yn rhyngweithiol ac yn cysylltu gwahanol agweddau o daith y claf, gan gynnwys data archwilio a mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMS). Mae hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar yr ymyriadau sy’n gweithio orau i gleifion, gan ystyried eu sefyllfaoedd unigol, a thynnu sylw at amrywiad mewn gwasanaethau a chanlyniadau i ddatgelu gorddefnydd a thanddefnydd o wahanol agweddau ar ofal iechyd.

Rhyddhawyd Dangosfwrdd Canser yr Ysgyfaint Cenedlaethol y llynedd, a bydd hyn yn cael ei ddilyn yn 2020 gan ddangosfyrddau ar gyfer methiant y galon, gosod pen-glin newydd, strôc, cataractau a chanser y colon a'r rhefr.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddatblygu dangosfwrdd Canser yr Ysgyfaint ail genhedlaeth, gan adeiladu ar lwyddiant y dangosfwrdd cyfredol, ac esblygu i fodloni gofynion mwy soffistigedig defnyddwyr.

Mae’r Arbenigwr Gwybodaeth Sally Cox yn arwain datblygiad dangosfyrddau yn y Gwasanaeth Gwybodeg. Eglurodd y canlynol: “I ddarparu’r darlun cyflawn sydd ei angen i nodi amrywiadau mewn gofal, mae angen i ni ddod â’r holl ddata sydd ar gael at ei gilydd. Ni fydd casglu data ar wahân, neu mewn seilos yn seiliedig ar ardal ddaearyddol, yn ein helpu i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl i gleifion.”

Am y tro cyntaf, mae data sy’n seiliedig ar gyflwr yn cael eu cysylltu ar lefel genedlaethol, gan alluogi dull sy’n seiliedig ar ddata i wneud penderfyniadau ar gyfer clinigwyr a chleifion. Bydd yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i asesu pa ymyriadau sy’n effeithiol a darparu gofal o ansawdd.

Ychwanegodd Sally: “Mae gan ddata’r pŵer i gael effaith uniongyrchol ar ofal a’r dewisiadau gofal y gall cleifion eu gwneud. Er enghraifft, dylai cleifion allu defnyddio’r dystiolaeth sydd ar gael i lywio penderfyniad ynghylch a ddylid cael cemotherapi, neu a fyddai pen-glin newydd yn gwella ansawdd eu bywydau.”

Dywedodd cynrychiolydd ar ran tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth: “Yn rhyfedd iawn, nid yw popeth a wnawn ym maes gofal iechyd yn cyfrannu at y canlyniadau gorau i bobl. Mae angen i ni wneud llai o bethau nad ydynt yn helpu ac ail-fuddsoddi adnoddau i wneud mwy o’r pethau sy’n helpu. Dyna pam mae system sy’n seiliedig ar ddata mor bwysig. Mae’n ceisio darparu’r wybodaeth amserol sydd ei hangen ar bobl Cymru, ein staff a’n sefydliadau rheng flaen i lywio’r penderfyniadau sy’n arwain at y canlyniadau gorau mewn ffordd sy’n gynaliadwy yn ariannol.”

 

Cyhoeddwyd: 10/02/20