Rydym yn falch o ennill y wobr ‘y lle gorau i weithio ym maes TG’ yng Ngwobrau Diwydiant TG Cymdeithas Gyfrifiadura Prydain.
Gwnaeth ein hymdrechion i symud i weithio o bell yn gyflym mewn ymateb i'r pandemig argraff arbennig ar y beirniaid.
Recordiodd Helen Thomas, y cyfarwyddwr dros dro, neges fideo (isod) a chwaraewyd y neges yn ystod y seremoni rithwir lle gwnaeth hi longyfarch tîm Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru am eu holl waith caled.
Gallwch wylio recordiad o’r seremoni fyw yma.
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/11/20
Diweddarwyd ddiwethaf: 13/11/20