Neidio i'r prif gynnwy

E-gyfeiriadau ar gael i Ddeintyddfeydd ym Myrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda

Mae'r System Reoli E-gyfeiriadau Deintyddol newydd, sy'n galluogi deintyddfeydd i anfon cyfeiriadau yn electronig, gan ddefnyddio templedi a gytunwyd arnynt yn genedlaethol, bellach yn weithredol ym Myrddau Iechyd Bro Morgannwg a Hywel Dda.  

 

Nawr, bydd e-gyfeiriadau yn cyrraedd clinigwyr yn gynt, gan sicrhau y bydd cleifion ag anghenion brys yn cael eu gweld lawer cynt. Yn ogystal, mae'n bosibl atodi radiograffau ansawdd uchel at e-gyfeiriadau ac mae'r system yn galluogi cleifion a deintyddion i olrhain statws cyfeirio yn hawdd. Gall byrddau iechyd hefyd ddefnyddio'r data a gesglir o e-gyfeiriadau i asesu gwasanaethau.  

 

Mae'r system newydd yn ymgorffori pob maes arbenigol ar draws y sector gofal sylfaenol ac eilaidd, gan gynnwys:  

 

  • Orthoddeintyddion
  • Llawfeddygaeth y geg
  • Llawfeddygaeth y geg, y genau a'r wyneb
  • Meddyginiaeth y geg
  • Deintyddiaeth adferol
  • Gwasanaethau deintyddol cymunedol (Pediatreg a Gofal Arbenigol)
  • Archwiliadau canser brys

 

Yn dilyn y cyfnod gwerthuso cychwynnol, mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn bwriadu cyflwyno'r system i fyrddau iechyd eraill yn ddiweddarach yn ystod y gwanwyn.