Mae gwaith Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i ddatblygu gweithlu digidol mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cael ei ddathlu gan Ganolfan Genedlaethol y DU ar gyfer Prifysgolion a Busnes. Yn chweched asesiad o lwyddiant partneriaethau blynyddol y Ganolfan, mae’n disgrifio partneriaeth Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant fel “model cadarnhaol i weddill gwasanaethau iechyd cenedlaethol y DU”.
Lansiwyd y bartneriaeth – sef Sefydliad Gwybodaeth Digidol Cymru - yn swyddogol ar 30 Mawrth 2017, ac erbyn heddiw mae wedi datblygu pedwar cwrs gradd BSc (Anrhydedd) rhan-amser: Systemau Data a Gwybodaeth, Systemau Busnes a Gwybodaeth, Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Diogelwch Seibr, a Pheirianneg Meddalwedd. Mae’r holl ffrydiau wedi’u hachredu gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain, sy’n rhoi statws TG Siartredig Proffesiynol (CITP) i raddedigion. Yn ogystal, mae’r rhaglenni peirianneg meddalwedd wedi ennill statws Peirianneg Siartredig (CEng) rhannol.
Dywedodd yr Athro Wendy Dearing, Pennaeth y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Athro Ymarfer newydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Mae’r bartneriaeth yn datblygu i fod yn broses organig gyda buddion newydd yn dod i’r amlwg bob wythnos. Mae staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi darparu dosbarthiadau meistr i fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a phrentisiaid gradd, tra bod academyddion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi darparu rhaglenni byr a phenodol i staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.”