Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar uwchraddio i WLIMS

 

 

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/01/21Llwyddodd GIG Cymru i gwblhau uwchraddiad mawr o System Rheoli Gwybodaeth Labordy Cymru (WLIMS) dros y penwythnos. Roedd y gwaith hanfodol hwn, yr oedd yn rhaid ei gwblhau cyn diwedd y mis hwn ac a oedd wedi'i gynllunio fisoedd ymlaen llaw, angen amser segur i'r WLIMS dros nos ddydd Gwener 11 Rhagfyr hyd at nos Sadwrn 12 Rhagfyr. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r cyflenwr a'r gwasanaeth yn ystod y penwythnos a'r wythnos hon i gefnogi trosglwyddo'r datrysiad wedi'i uwchraddio hwn i weithrediadau arferol fel y’i cynlluniwyd.

Yn ystod y cyfnod hwn, rhoddwyd trefniadau ar waith i sicrhau y byddai cyn lleied o darfu â phosibl i'r Rhaglen Profi Olrhain Diogelu, a bod dinasyddion yn parhau i gael eu hysbysu o'u canlyniadau gan Labordai Goleudy Lloegr a bydd y timau Olrhain Cysylltiadau wedi cysylltu â dinasyddion â chanlyniadau positif fel sy'n briodol. 

Roedd angen gwneud gwaith pellach i ailgychwyn llif canlyniadau'r Labordai Goleudy i'r system labordy, sydd wedyn yn sicrhau bod y canlyniad ar gael fel rhan o'r Cofnod Iechyd a Gofal Digidol yng Nghymru. Cwblhawyd y gwaith hwn ddydd Mawrth 15 Rhagfyr ac roedd ôl-groniad y canlyniadau wedi llifo i'r WLIMS erbyn 8am 16 Rhagfyr.

Yn anffodus, yn ystod y cyfnod hwn, nid oedd y data hyn ar gael ar gyfer adrodd ystadegol. Mae'r holl ddata a’r adrodd bellach yn gyfredol.

Nid yw’r gwaith hwn wedi effeithio ar unigolion sy’n derbyn canlyniadau eu profion COVID-19 na dechrau prosesau olrhain cysylltiadau.

 

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/12/20