Mae datblygwyr o NWIS wedi bod yn rhan o'r tîm sy’n sicrhau bod ap COVID-19 y GIG yn cysylltu â data a systemau sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru i helpu i atal lledaeniad Coronafeirws. Mae llwyddiant y gwaith integreiddio rhwng yr ap a’r systemau labordy yn golygu bod yr ap yn rhedeg yn esmwyth yng Nghymru.
Os bydd defnyddiwr ap yn archebu prawf COVID-19 trwy'r ap, mae'r integreiddiad a gwblhawyd gan NWIS wedi sicrhau y bydd y canlyniad yn cael ei ddychwelyd i'r ap ac y bydd yn cael ei ddiweddaru’n awtomatig. Os byddant yn archebu trwy unrhyw ddull arall, byddant yn derbyn tocyn ochr yn ochr â'r canlyniad SMS y dylid ei fwydo â llaw i'r ap i ddatgloi'r cyngor ynysu COVID-19 diweddaraf. Yng Nghymru, bydd dinasyddion sy’n derbyn canlyniad negatif a phositif yn derbyn tocyn a byddant yn gallu ei fwydo i'r ap, sy'n wahanol i Loegr, lle maent ar hyn o bryd ond yn darparu tocynnau i ddinasyddion sy’n derbyn canlyniad positif.
Yn ystod y tridiau cyntaf ar ôl lansio'r ap, mae wedi'i lawrlwytho 10 miliwn o weithiau. Nodwedd allweddol am yr ap yw ei fod yn nodi cysylltiadau trwy gofnodi faint o amser y mae defnyddiwr yn ei dreulio ar bwys defnyddwyr eraill yr ap, a'r pellter rhyngddynt, felly gall rybuddio'r defnyddiwr os yw rhywun y buont yn agos ato yn profi’n bositif ar gyfer COVID-19 yn ddiweddarach - hyd yn oed os nad ydynt yn adnabod ei gilydd. Bydd yr ap yn cynghori'r defnyddiwr i hunanynysu os yw wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos a gadarnhawyd.
Meddai Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Cymru; “Mae lansio ap COVID-19 y GIG yn rhan bwysig o ymateb Cymru i’r Coronafeirws, gan ei fod yn cefnogi rhaglen Prawf, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Po fwyaf o bobl sy'n lawrlwytho ac yn defnyddio'r ap hwn, y mwyaf y bydd yn ein helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu."
Dyluniwyd yr ap gyda phreifatrwydd defnyddwyr mewn golwg, felly mae'n olrhain y feirws, nid pobl, ac mae’n defnyddio'r dechnoleg diogelwch data ddiweddaraf i ddiogelu preifatrwydd. Mae'r system yn cynhyrchu cyfeirnod ar hap ar gyfer dyfais unigolyn, y gellir ei gyfnewid rhwng dyfeisiau trwy Bluetooth. Mae'r cyfeirnodau ar hap unigryw hyn yn ailgynhyrchu’n aml er mwyn ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch ac i sicrhau eich bod yn ddienw.
Nid yw'r ap yn cadw gwybodaeth bersonol fel enw, cyfeiriad na dyddiad geni, a dim ond hanner cyntaf cod post sydd ei angen arno i sicrhau y gellir rheoli achosion lleol.
Er y bydd yr ap yn gymorth mawr i’r system olrhain cysylltiadau, atgoffir trigolion Cymru i barhau i gadw Cymru yn ddiogel ac i atal COVID-19 rhag lledaenu trwy wneud pob un o’r canlynol:
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/09/20