Neidio i'r prif gynnwy

Data deintyddol i lywio a gwella gwasanaeth

Mae data allweddol sy’n cael ei gasglu gan system ddeintyddol newydd yn sicrhau bod cleifion Cymru yn derbyn y gofal cywir yn y man cywir.

Mae’r System Rheoli Atgyfeiriadau Deintyddol ar y we yn cynnig dangosfyrddau cynhwysfawr i sicrhau bod data ar gael yn hwylus i fyrddau iechyd ym mhob rhan o Gymru. Mae’r data yn adlewyrchiad o’r holl atgyfeiriadau deintyddol a wneir; gan gwmpasu atgyfeiriadau i bob bwrdd iechyd, gan gynnwys y nifer i bob arbenigedd, nifer yr atgyfeiriadau i ofal sylfaenol ac eilaidd ac atgyfeiriadau a ddychwelwyd o ganlyniad i wall.

Mae’r data yn galluogi deintyddion i adolygu gofal cleifion a monitro a ydynt yn cael eu gweld yn y lleoliad priodol. Mae cael system ddigidol sydd yn adrodd yn rheolaidd ar daith cleifion yn golygu bod yr wybodaeth yn fwy dibynadwy, gan arwain at gynllunio mwy cywir a darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Mae adolygu’r system yn barhaus yn ymdrech gydweithredol, a gyflawnir gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, holl fyrddau Iechyd Cymru a’r Grŵp Cyfeirio Clinigol (CRG) sydd newydd gael ei ffurfio ac sydd â chynrychiolwyr o bob un o’r sefydliadau hyn.

Er mwyn creu’r system orau bosibl i ddeintyddion, mae’r CRG yn canolbwyntio ar welliant ac arloesedd parhaus, gan lywio datblygiadau yn y dyfodol a chwblhau dadansoddiad manwl o ddata i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau.

Ochr yn ochr â hyn, cynhelir astudiaeth o’r system er mwyn archwilio’r posibilrwydd o integreiddio â systemau cenedlaethol cyfredol i greu taith ddi-dor i gleifion sydd angen gofal arbenigol.

Byrddau Iechyd Bae Abertawe a Hywel Dda oedd y cyntaf i ddefnyddio’r system ym mis Mawrth 2019, a rhoddwyd mynediad i bob un o’r byrddau iechyd eraill erbyn diwedd mis Mai. Ers hynny, mae dros 46,500 o atgyfeiriadau wedi’u gwneud yn ddiogel ac yn effeithiol drwy’r system.

Ariennir y System Rheoli Atgyfeiriadau Deintyddol gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei darparu gan ymgynghorwyr FDS ar y cyd â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

09/03/2020