Mae cynllun peilot ar gyfer gwasanaeth swabio dolur gwddf yn y fan a’r lle yn hybu defnydd mwy effeithlon o wrthfiotigau ymysg cleifion mewn rhannau o Gymru, yn ôl y canlyniadau dechreuol.
Cynhelir cynllun peilot y Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf fel rhan o’r Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sy’n annog cleifion i ymweld â’u fferyllfa gymunedol ar gyfer anhwylderau cyffredin, yn hytrach na’u meddyg teulu.
Mae cyfanswm o 53 o fferyllfeydd cymunedol yn cymryd rhan yn y cynllun hyd yma; 30 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a 23 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
Mae’r prawf yn pennu a yw dolur gwddf yn cael ei achosi gan firws – sy’n golygu na fydd gwrthfiotigau’n helpu – neu haint bacterol o ryw fath. Darperir canlyniadau o swab o’r gwddf mewn ychydig funudau, ac os oes haint bacterol yn bresennol a gellir helpu’r claf gyda gwrthfiotigau, gall y fferyllydd eu cyflenwi. Hefyd, mae addysgu pobl bod heintiau bacterol yn diflannu heb wrthfiotigau fel arfer yn rhan o’r gwasanaeth, ac mae rhai cleifion yn dewis peidio â chymryd gwrthfiotigau hyd yn oed os bydd y swab o’r gwddf yn dangos canlyniadau positif.
Cynghorwyd dros 80% o’r 1,000 o gleifion a gymerodd ran yn y cynllun peilot rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr nad oedd angen unrhyw wrthfiotigau arnynt ar ôl cymryd y prawf swab.
Dywedodd Cheryl Way, sef Arweinydd Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaeth Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru:
“Nid yw gwrthfiotigau’n gweithio ar gyfer y rhan fwyaf o achosion o ddolur gwddf, oherwydd maent yn cael eu hachosi gan firysau. Os caiff dolur gwddf ei achosi gan facteria, weithiau mae angen gwrthfiotigau, ond nid bob tro. Mae’r Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf yn sicrhau bod cleifion yn cymryd gwrthfiotigau pan mae’n wirioneddol angenrheidiol yn unig, a heb roi pwysau ychwanegol ar lwyth gwaith meddygon teulu trwy gael presgripsiwn.
“Dyma lwyddiant arall i’r Llwyfan Dewis Fferyllfa yr ydym wedi’i ddatblygu yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, ac mae’n dangos sut gall technoleg gynorthwyo fferyllwyr i gyflwyno gwasanaethau estynedig.”
Dywedodd Emma Williams, sef yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Dewis Fferyllfa:
“Mae’r gwasanaeth hwn yn enghraifft wych o sut mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, byrddau iechyd a fferyllwyr cymunedol wedi gweithio gyda’i gilydd i gynorthwyo cleifion i gael mynediad i ofal GIG priodol.
“Mae fferyllwyr sy’n gweithio yn y cynllun peilot wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol i gyflwyno’r gwasanaeth ac i weld sut mae’n cynorthwyo cydweithwyr mewn practisau meddyg teulu a thu allan i oriau i ddarparu gofal priodol i gleifion.
“Mae adborth y cleifion wedi bod yn gadarnhaol dros ben, gyda chleifion yn ystyried bod y gwasanaeth yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn ddefnyddiol. Mae timau datblygu a chyflenwi Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi gweithio’n galed dros ben i gyflenwi rhaglen o ansawdd uchel sy’n cefnogi cyflenwad y gwasanaeth o fewn amserlen dynn y prosiect.”
Dywedodd Efi Mantzourani, sef Arweinydd Ymchwil a Gwerthuso yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Uwch-ddarlithydd Ymarfer Fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd:
“Rydym yn falch bod y gwerthusiad dechreuol wedi dangos canlyniadau mor addawol ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn. Byddwn yn parhau i ddadansoddi data am o leiaf flwyddyn i weld sut gall amrywiadau tymhorol effeithio ar y gwasanaeth, a byddwn yn ymchwilio a fydd gostyngiadau mewn cyfraddau ymgynghori ar draws gofal sylfaenol ar gyfer dolur gwddf, gan fod y data sydd gennym ni hyd yma yn hunan-adroddol yn unig.”