Neidio i'r prif gynnwy

Cymru'n diogelu negeseuon e-bost y sector

Mae'r holl negeseuon e-bost a anfonir ar draws y mwyafrif o sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru bellach yn ddiogel ac wedi cael eu hamgryptio, yn dilyn ymdrech ar y cyd rhwng Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a sector cyhoeddus Cymru. 

Mae'n golygu bod y negeseuon e-bost sy'n cael eu hanfon rhwng sefydliadau fel y llywodraeth leol, yr heddlu, y gwasanaeth tân, a'r GIG bellach wedi cael eu hamgryptio rhwng yr holl bartïon.
 
Er bod hyn yn sicrhau bod yr holl negeseuon yn ddiogel, nid yw'n atal camgyfeirio (anfon neges e-bost at y derbynnydd anghywir) na gollwng data (anfon gwybodaeth sensitif at y derbynnydd anghywir), ac mae angen i staff fod yn ofalus o hyd i sicrhau eu bod nhw'n dewis y derbynnydd e-bost cywir.
 
Mae gwaith yn parhau i sicrhau y gall GIG Cymru gael cyfathrebiadau e-bost diogel gyda GIG Lloegr a darparwyr gofal iechyd preifat.