Y mis hwn, lansiwyd ein gwefan newydd, sy'n cynnwys gwell ymarferoldeb a nodweddion ynghyd â chynnwys a dyluniad o ansawdd uwch - a fydd yn ei gwneud hi'n haws i chi gael mynediad at wybodaeth o unrhyw ddyfais, gan gynnwys ffonau symudol a llechi.
Defnyddiwyd system Mura Content Management i adeiladu'r wefan, a fydd ar gael i bob bwrdd iechyd y GIG yng Nghymru eleni. Gallwch ymweld â'r safle trwy glicio ar y dolenni canlynol: https://nwis.nhs.wales/ neu https://gggc.gig.cymru/.
"Wrth i fwy a mwy o bobl chwilio am wybodaeth ar ffonau symudol a llechi, mae'r wefan newydd wedi'i dylunio i fod yn fwy hygyrch i ddyfeisiau symudol," esboniodd Jenilee Cardy, Arbenigwr Cyfathrebu Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. "Rydym ni eisiau i bobl ymweld â'r wefan er mwyn gweld yr holl welliannau!"
Oherwydd mai fersiwn BETA o'r wefan yw hon, bydd hi'n parhau i dyfu a newid dros yr wythnosau nesaf wrth i fwy o gynnwys gael ei ychwanegu ac wrth i ni wneud newidiadau yn seiliedig ar eich adborth.