Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabyddiaeth i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru am ei ymroddiad i werthfawrogi staff

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yw’r sefydliad GIG cyntaf yn y DU i feddu ar y Safon BS76000 Gwerthfawrogi Pobl a’r Safon BS76005 Amrywiaeth a Chynhwysiant.  A ddyfarnwyd gan y Sefydliad Safonau Pryneinig (BSI).
 
Y llynedd, y sefydliad oedd y cyntaf i gyflawni’r Safon Gwerthfawrogi Pobl ac ar ôl ailasesiad, cadwodd yr ardystiad ym mis Tachwedd. Egwyddor graidd y safon yw bod pobl yn eu hanfod yn werthfawr, a dylent gael eu trin yn unol â hynny. Yn sgil hyn gall y gweithwyr a’r sefydliad elwa ar berthynas waith gyfartal, mwy cynaliadwy.
 
Mae’r Safon Amrywiaeth a Chynhwysiant yn adeiladu ar yr egwyddorion hyn i gynnwys croesawu amrywiaeth, atal gwahaniaethau ac adeiladu diwylliant gwaith cynhwysol. Cafodd hyn ei gyflawni flwyddyn yn gynt na’r disgwyl.
 
“Mae gennym ni arferion gwych o ran gwerthfawrogi pobl ac amrywiaeth a chynhwysiant, sydd wedi cael eu cydnabod trwy gyflawni’r ddwy safon hon. Mae’r safonau hyn yn ymwneud yn llwyr â’n staff, a datblygu’r sefydliad i gyflawni ei botensial” meddai Sarah Brooks, sef Rheolwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.