Neidio i'r prif gynnwy

Cofnodion gofal canser ar gael i'w gweld ym Mhorth Clinigol Cymru

Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru gyrchu gwybodaeth am gleifion canser trwy Borth Clinigol Cymru (WCP). Yn flaenorol, roedd y wybodaeth hon ar gael i ddefnyddwyr System Wybodaeth Rhwydwaith Canser Cymru (CaNISC) yn unig. 

Mae CaNISC yn cael ei ddiddymu'n raddol yn sgil oedran ei feddalwedd. 

Mae Crynodeb o Nodiadau Achos CaNISC bellach yn cynnwys diagnosis timau amlddisgyblaeth, triniaethau arfaethedig, a chrynodeb a gynhyrchir gan y system o gofnod canser claf. Mae ei gyrchu trwy Borth Clinigol Cymru yn golygu, os bydd y claf yn ymweld ag amgylchedd gofal iechyd lle nad yw CaNISC ar gael, bydd gwybodaeth y claf dal yn hygyrch.

Yn ystod y chwe diwrnod cyntaf ar ôl iddi ddechrau, roedd bron mil o ddefnyddwyr wedi cyrchu Crynodeb Nodiadau Achos CaNISC ym Mhorth Clinigol Cymru. Nid oedd gan 84% o'r defnyddwyr hynny fynediad at CaNISC, sy'n arddangos bod y rhaglen TG genedlaethol yn bodloni anghenion defnyddwyr.

Mae Crynodeb Nodiadau Achos CaNISC yn ychwanegu at y wybodaeth helaeth am gleifion sydd ar gael i'w gweld ym Mhorth Clinigol Cymru, gan gynnwys dros 170 miliwn o ganlyniadau profion a dros 17 miliwn o ddogfennau gofal, yn ogystal â mynediad at gofnodion crynodeb meddygon teulu llawn ar gyfer y 3.1 miliwn o ddinasyddion yng Nghymru.