Cwblhaodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hyfforddiant wyth Ymatebwr Cyntaf Cymunedol newydd yn gynharach eleni gyda'n staff yng Nghaerdydd.
Mae hon yn fenter sy’n caniatáu i sefydliadau hyfforddi staff â sgiliau achub bywyd ac i gefnogi gweithlu ehangach y GIG.
Mae'r Ymatebwyr Cyntaf ar rota sy'n cwmpasu oriau gwaith craidd (9am tan 5pm). Gellir eu galw i ddigwyddiadau o fewn 1,000 metr i'w swyddfa ac maent wedi'u hyfforddi i ddelio â 702 o wahanol godau damweiniau gan gynnwys ataliadau ar y galon, strôc, adweithiau alergaidd neu boenau yn y frest.
Fe wnaeth Neil Kitching, sy'n gweithio ym maes datblygu sefydliadol ac a gafodd ei hyfforddi fel ymatebwr cyntaf, roi ei sgiliau ar brawf pan ymddangosodd rhybudd ar ei ffôn ar ôl iddo fynychu Cynhadledd Staff.
Dywedodd y neges: “Claf wedi llewygu. Diffibriliwr Allanol Awtomataidd yn y fan a'r lle. 357m i ffwrdd. Allwch chi helpu?”
Aeth Neil yno’n syth, gan gyrraedd cyn yr ambiwlans. Daeth o hyd i ddyn ifanc yn gorwedd ar ei gefn a'i lygaid wedi rholio yn ôl yn ei ben ac roedd yn gwneud synau anadlu ysbeidiol. Canfu yn gyflym fod y dyn wedi derbyn un sioc gan y diffibriliwr allanol awtomataidd (AED), gwnaeth symudiad, wedyn dechreuodd geisio anadlu ac yna stopiwyd y broses adfywio cardio-pwlmonaidd. Canfu Neil anadlu annormal a gwyddai fod yn rhaid ailgychwyn y broses adfywio cardio-pwlmonaidd ar unwaith.
Ar ôl 20-30 eiliad o gywasgiadau, rholiodd y claf ar ei ochr gan ddangos arwyddion bywyd ac adfer. Gelwir hyn yn Ddychweliad Cylchrediad Naturiol. Llwyddodd Neil i gadw'r dyn mewn cyflwr sefydlog nes i'r criw o barafeddygon a'r Cerbyd Ymateb Cyflym gyrraedd ychydig o funudau'n ddiweddarach.
Ar ôl trafod y mater gyda'i hyfforddwr ymatebwr cyntaf, darganfu Neil nid yn unig ei fod wedi dilyn y weithdrefn gywir ar gyfer y sefyllfa honno, ond ei fod hefyd wedi helpu i achub bywyd rhywun a oedd wedi dioddef ataliad y galon.
Dywedodd Neil: “Er mwyn i’r diffibriliwr ganiatáu i sioc gael ei danfon, rhaid iddo ganfod bod y claf yn dioddef ffibriliad fentriglaidd, a gaiff ei ddilyn gan farwolaeth os na roddir triniaeth. Mae llai na 10% o bobl yn gwella ar ôl ataliad y galon, felly roedd sicrhau Dychweliad Cylchrediad Naturiol ar fy ngalwad cyntaf fel ymatebwr yn anhygoel!”
Mae gweithredoedd Neil a achubodd fywyd y diwrnod hwnnw yn dyst i’w ddewrder, ei benderfyniad a’i ffocws fel Ymatebwr Cyntaf Cymunedol.
Yn dilyn llwyddiant cychwynnol y rhaglen, rydym yn bwriadu ymestyn yr hyfforddiant i swyddfeydd eraill. I gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ewch i'w gwefan.