Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddiad o £13 miliwn mewn technoleg ar gyfer cleifion gofal dwys GIG Cymru

Bydd ysbytai yng Nghymru yn elwa ar system fonitro ddigidol uwch-dechnoleg newydd ar gyfer pobl sy'n ddifrifol wael mewn unedau gofal dwys.

Yn dilyn addewid gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i gyflymu gwelliannau digidol ar gyfer gofal critigol, mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi arwyddo contract gwerth £13 miliwn gyda'r cyflenwr ASCOM.

Mae’r cytundeb saith mlynedd ar gyfer meddalwedd Digistat ASCOM yn darparu gwasanaeth a reolir ac yn darparu platfform technegol i ddatblygu System Gwybodaeth Gofal Dwys Cymru gyfan.

Mae Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd a'r Rhwydwaith Gofal Critigol a Thrawma yn darparu’r cyllid.

Bydd arloesi digidol yn trawsnewid gofal critigol trwy awtomeiddio'r broses o gasglu data o'r monitorau a'r dyfeisiau soffistigedig a ddefnyddir i roi cymorth i gleifion sydd â salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd.

Gyda phwysau cynyddol ar wasanaethau gofal dwys, bydd lleihau'r baich gweinyddol ar staff GIG Cymru yn rhyddhau mwy o amser ar gyfer gofal cleifion. Mae dros 10,000 o bobl yn derbyn gofal critigol yn ysbytai Cymru bob blwyddyn.

Ar hyn o bryd, yn bennaf, mae’n ofynnol i staff yn 14 Uned Gofal Dwys Cymru, sydd â chyfanswm o 198 gwely, gwblhau siartiau papur manwl i gofnodi arwyddion bywyd hanfodol.

Bydd awtomeiddio yn sicrhau bod gwybodaeth amser real ar gael ar draws ystod o ddyfeisiau, gan ffurfio rhan o gofnod digidol y claf, gan symleiddio prosesau gofal.  Bydd integreiddio â systemau GIG Cymru yn galluogi staff gofal dwys i wneud y canlynol:

  • Cofnodi asesiadau cleifion yn electronig
  • Rheoli presgripsiynau a rhoi cyffuriau wrth wely claf
  • Cysylltu ag offer wrth wely claf i gofnodi arwyddion hanfodol a chydbwysedd hylif
  • Cyfrifo sgoriau aciwtedd claf
  • Rheoli heintiau yn well
  • Rheoli cynlluniau gofal dyddiol
  • Creu adroddiadau ar ganlyniadau ac amcanion adran
  • Cefnogi anghenion archwilio ac ymchwil cenedlaethol

Bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei chasglu mewn cronfa ddata ddeinamig, y gellir ei defnyddio hefyd fel meincnod yn erbyn systemau gofal iechyd eraill a darparu platfform ar gyfer ymchwilio i welliannau mewn gofal beunyddiol sy'n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial, a'u gweithredu o bosibl.

Dywedodd Mr Gething: “Mae ein gwasanaethau gofal dwys yng Nghymru yn darparu gwasanaethau rhyfeddol sy’n helpu pobl pan fyddant yn ddifrifol wael.  Bydd cyflwyno'r dechnoleg arloesol hon yn gwella'r gofal y mae cleifion yn ei dderbyn ac yn caniatáu i feddygon a nyrsys dreulio cymaint o amser â phosibl yn gofalu am gleifion. Mae defnyddio technoleg i ddarparu GIG cynaliadwy yn rhan allweddol o Cymru Iachach, ein strategaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru."

Dywedodd yr Athro Tamas Szakmany, arweinydd clinigol cenedlaethol ac ymgynghorydd yn Ysbyty Brenhinol Gwent: “Bydd y system newydd yn gwneud bywyd staff gofal critigol rheng flaen yn haws trwy leihau gwastraff, dyblygu a gwallau posibl.  Bydd yn ein galluogi i weithio'n ddi-dor ar draws ffiniau sefydliadol, i rannu arferion da ac i weithredu newid sy'n cael ei yrru gan dystiolaeth yn gyflym.”

Dywedodd Geraint Walker, arweinydd nyrsio cenedlaethol a nyrs staff yn Ysbyty Treforys:  “Bydd yn ein galluogi ni fel nyrsys i reoli gofal cleifion yn fwy effeithlon a bydd, yn ei dro, yn ein helpu i wella'r gofal rydym yn ei ddarparu.”

Dywedodd Helen Thomas, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: “Rydym yn falch iawn o gydweithio yn y broses o ddarparu a gweithredu’r system newydd gyffrous hon, a fydd yn helpu i gryfhau darpariaeth gofal dwys yng Nghymru.”

Ysbyty Athrofaol y Grange, a fydd yn gwasanaethu ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, fydd y cyntaf i fabwysiadu'r system newydd yn haf 2021. Yna bydd y broses gyflwyno fesul cam yn dilyn i holl unedau gofal dwys GIG Cymru.