Neidio i'r prif gynnwy

Arweinwyr Digidol Cymru: Rhaid i ddata ein gyrru ymlaen

Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau sy'n storio llawer o ddata hefyd yn "brin o wybodaeth", sy'n golygu nad ydyn nhw'n cael gwerth digonol o'u data. 

Bydd salon nesaf Arweinwyr Digidol Cymru, a gynhelir gan Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, yn mynd i'r afael â'r broblem hon ac yn tynnu sylw at sut mae angen i ni i gyd allu rheoli'r data rydym yn eu casglu a'u troi'n wybodaeth berthnasol, ddefnyddiol.

Bydd y trafodwyr arweiniol yn cynnwys ein Cyfarwyddwr Gwybodaeth, Helen Thomas, ynghyd â David Ford, Athro Gwybodeg Iechyd a Chyfarwyddwr Ymchwil Data Gweinyddol Cymru a Chyd-gyfarwyddwr Cronfa Ddata SAIL ym Mhrifysgol Abertawe a chynrychiolydd o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae'r salon, a gynhelir ym Mhrifysgol Abertawe, yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ac fe'i gynhelir ar ddydd Mercher, 25 Medi am 5pm. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Digital Leaders.