Neidio i'r prif gynnwy

Arloesiad digidol yn pweru peilot 'profi a thrin' dolur gwddf

Bydd y fenter yn cael ei pheilota fel rhan o wasanaeth Dewis Fferyllfa, sy’n annog cleifion i ymweld â’u fferyllydd cymunedol yn hytrach na’u meddyg teulu ar gyfer mân anhwylderau, fel diffyg traul, clefyd y gwair, llid pilen y llygad, a dolur gwddf. Caiff Dewis Fferyllfa ei alluogi gan system TG fferyllfa, ac fe’i datblygwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i’w ddefnyddio yn GIG Cymru.
 
I ddechrau, bydd gwasanaeth swabio dolur gwddf ar gael mewn fferyllfeydd penodol yn ardaloedd byrddau iechyd lleol Cwm Taf a Betsi Cadwaladr.
 
Bydd y prawf dolur gwddf yn pennu a yw’r salwch yn cael ei achosi gan firws - sy’n golygu na fydd cyffuriau’n helpu - neu haint bacterol. Rhoddir canlyniadau prawf swabio gwddf o fewn munudau. Os bydd haint bacterol yn bresennol, a gellir helpu’r claf â gwrthfiotigau, bydd y fferyllydd yn eu cyflenwi. Ni fydd rhaid i’r claf weld meddyg teulu.
 
Dywedodd Cheryl Way, Fferyllydd Clinigol Arweiniol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: “Mae hon yn enghraifft bellach o sut gall llwyfan digidol Dewis Fferyllfa leddfu pwysau ar wasanaethau meddygon teulu a chefnogi rhagnodi gwrthfiotigau priodol. Mae’n rhoi i fferyllwyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gyflenwi’n ddiogel, a chadw cofnod diogel o ofal y claf.”
 
Esboniodd Cheryl Way: “Mae fferyllfeydd cymunedol mewn safle da i helpu rheoli cleifion â dolur gwddf a’u cyfeirio ar gyfer archwiliad pellach, os oes arwyddion o haint mwy cymhleth.”
 
Amcangyfrifir bod oddeutu 180,000 o ymgynghoriadau gyda meddygon teulu ar gyfer dolur gwddf yng Nghymru bob blwyddyn. Yn 2016, dosbarthwyd 122,000 o bresgripsiynau gwrthfiotig ar gyfer dolur gwddf.
 
Bydd y fenter profi a thrin dolur gwddf yn cael ei gwerthuso’n llawn cyn y gwneir penderfyniad ynghylch ei ddefnyddio’n ehangach.
 
Mae Dewis Fferyllfa ar gyfer mân anhwylderau ar gael mewn 96% o fferyllfeydd ar hyn o bryd a bydd ar gael ym mhob fferyllfa gymunedol yng Nghymru erbyn mis Mawrth 2020.
 
Ym mis Ebrill 2018, cafodd Dewis Fferyllfa ei gydnabod yn y Gyngres Fferylliaeth Glinigol, fel enillydd y wobr am “Ragoriaeth yn y Defnydd o Dechnoleg mewn Arfer Fferylliaeth”.