Bydd adolygiad newydd yn sicrhau y bydd gan raddedigion cyfrifiadureg y sgiliau sydd eu hangen arnynt i sbarduno adferiad economaidd wrth i wyddor data a deallusrwydd artiffisial (AI) newid y diwydiant wedi COVID-19.
Mae’r British Computer Society (BCS) wedi lansio adolygiad o achredu academaidd cyrsiau gradd mewn cyfrifiadureg er mwyn sicrhau y bydd graddedigion yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i sbarduno adferiad a thwf economaidd ledled y DU.
Mae’r Athro Wendy Dearing, Pennaeth Gwasanaethau’r Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn rhan o’r panel adolygu. Meddai, “Rwy’n falch fy mod wedi cael fy ngwahodd i gyfrannu at yr adolygiad pwysig hwn. Fel cyflogwr, mae Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru a GIG Cymru yn ehangach yn cefnogi’r rhaglen waith yn fawr ac rwy’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan i sicrhau bod ein graddedigion yn y dyfodol yn meddu ar y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.”
Darllenwch y datganiad llawn i'r wasg yma.