Ar 24 Medi 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fuddsoddiad sylweddol yn e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru. Mae hwn yn gyfle gwych i ni ehangu’r adnoddau y mae’r e-Lyfrgell yn gallu eu cynnig.
Dros y pum mis diwethaf, rydym ni wedi cynhyrchu dros 1,500 o e-gyfnodolion ychwanegol gan amrywiaeth o gyhoeddwyr; pedwar offeryn pwynt gofal, ac un pecyn e-ddysgu.
Mae’r buddosddiad hwn yn dathlu lansio sefydliad newydd yn y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW). Nod HEIW yw darparu un ymagwedd at gomisiynu, cynllunio a datblygu addysg a hyfforddiant gweithlu’r GIG.
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi rheoli’r e-Lyfrgell ers nifer o flynyddoedd, gyda chefnogaeth barhaus llyfrgellwyr ar draws yr holl Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd. Mae gennym ni hefyd grŵp o Hyrwyddwyr e-Lyfrgell sy’n cynrychioli amrywiaeth o weithwyr iechyd proffesiynol.
“Rwy’n falch y bydd gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol fynediad cyfartal at ystod eang o wybodaeth o ansawdd uchel, ar sail tystiolaeth, ar-lein, i ategu eu haddysg, hyfforddiant, ymchwil, datblygiad, a’u gwaith dyddiol yn cyflwyno gofal.” meddai Rhidian Hurle, Prif Swyddog Gwybodaeth Glinigol GIG Cymru.
Mae’r holl e-adoddau newydd hyn bellach yn hyrgyrch i holl staff GIG Cymru, deiliaid contractau (meddygon teulu, optometryddion, deintyddion, fferyllwyr cymunedol a gweithwyr cymdeithasol), hyfforddeion, hyfforddwyr, a myfyrwyr ar leoliad. Erbyn mis Ionawr 2019, bydd gan yr e-Lyfrgell gronfeydd data a systemau ategol newydd ar waith.