Neidio i'r prif gynnwy

Mae mynediad at ganlyniadau geneteg yn caniatáu triniaethau canser mwy personol

9 Gorffennaf 2021

Bellach, mae meddygon yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ganlyniadau profion genetig digidol ar gyfer cleifion canser brys, yn dilyn diweddariad i Borth Clinigol Cymru yn ddiweddar.

Mae gallu gweld y data ychwanegol hyn yn golygu y gall clinigwyr nodi a allai newidiadau genetig mewn cleifion effeithio ar eu triniaeth, a bydd hyn yn caniatáu datblygu cynlluniau triniaeth mwy personol.

Meddai Dr Samantha Cox, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol:

“Mae'r defnydd o brofion genetig mewn oncoleg yn cynyddu'n gyflym ac yn cynnig cyfle cyffrous i deilwra triniaeth i gleifion y canfyddir bod ganddynt rai newidiadau yng nghyfansoddiad genetig celloedd yn eu gwaed neu yn eu tiwmor. Fodd bynnag, er mwyn nodi cleifion addas a sicrhau bod triniaethau canser yn cael eu rhoi yn ddiogel ac yn amserol, mae'n hanfodol bod pob aelod o'r tîm amlddisgyblaethol yn gallu cael mynediad at yr adroddiad cyfan gwreiddiol, ni waeth pa fwrdd iechyd neu arbenigedd a ofynnodd am y prawf." 

"Mae uwchlwytho adroddiadau genomeg canser AWMGS ar Borth Clinigol Cymru yn ddatblygiad gwasanaeth gwych sydd eisoes o fudd i ofal cleifion, yn enwedig o ystyried y symudiad diweddar i feddygaeth rithwir a gweithio o bell yn ystod COVID19. Bellach, mae canlyniadau'n cael eu dogfennu'n ddiogel a'u harbed mewn lleoliad canolog, electronig ac wrth i adroddiadau gael eu chwilio'n hawdd (gan ddefnyddio'r swyddogaeth hidlo 'GEN' ar dab 'Tests' Porth Cinigol Cymru), arbedir amser clinigol, sy'n golygu y gallwn ganolbwyntio ar gynllunio a darparu gofal cleifion yn hytrach na cheisio cael gafael ar ganlyniadau. Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran sydd wedi gweithio i gyflawni hyn yn gyflym, er gwaethaf heriau'r 12 mis diwethaf”.

Mae'r data, sydd bellach ar gael ym Mhorth Clinigol Cymru trwy Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, yn cynnwys canlyniadau profion canser brys sy'n cwmpasu ystod o wahanol fathau o ganser.

Mae Porth Clinigol Cymru ar gael i glinigwyr ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru ac mae'n gweithio trwy rannu ac arddangos gwybodaeth am gleifion yn ddigidol o nifer o ffynonellau trwy fewngofnodi unwaith, hyd yn oed os yw'r wybodaeth honno wedi’i harbed ar draws gwahanol sefydliadau iechyd. Mae cael yr wybodaeth mewn un lle yn golygu bod gan glinigwyr bob amser fynediad at gofnodion cywir a chyfredol cleifion.

Mae'r system bellach ar gael fel ap symudol, ac fe’i defnyddir ar hyn o bryd gan fwy na 27,000 o weithwyr iechyd proffesiynol yn GIG Cymru.