Neidio i'r prif gynnwy

Lleoedd wedi'u hariannu'n llawn ar gael ar Raglen Arweinyddiaeth Iechyd Digidol y GIG

24 Mai 2021

Mae'r rhaglen yn rhan o Academi Ddigidol y GIG, sy'n ceisio datblygu cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr newid digidol a fydd yn sbarduno trawsnewid gwybodaeth a thechnoleg yn y GIG.

Mae wedi'i hanelu at weithwyr y GIG neu'r sector cyhoeddus sy'n gweithio ar hyn o bryd ym maes gwybodeg iechyd neu rolau lle mae'n ofynnol iddynt ysgogi a gweithredu newid trawsnewidiol digidol ymarferol.

Mae'r cwrs blwyddyn yn defnyddio dull dysgu cyfunol sy'n cynnwys modiwlau ar-lein, sesiynau byw a dysgu trwy brofiad. Disgwylir iddo gychwyn ym mis Medi 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer pum lle ar raglen eleni. I wneud cais am y cyllid, mae angen i ymgeiswyr gyflwyno cais ar-lein cyn y dyddiad cau ar 21 Mehefin 2021.

Cliciwch yma i wneud cais:  https://forms.office.com/r/gvRnN1XFRs

Cliciwch yma i lawrlwytho pamffled Academi Ddigidol y GIG i gael rhagor o wybodaeth.

E-bostiwch NHSdigitalacademy@imperial.ac.uk i gael cymorth i wneud cais neu gydag unrhyw gwestiynau am y rhaglen.