Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r safle ysbyty acíwt cyntaf yng Nghymru bellach i gael pob ward cleifion mewnol yn fyw gyda'r system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Electronig (ePMA) gan y cyflenwr, Better, gan helpu i wella diogelwch meddyginiaethau, effeithlonrwydd a gofal cleifion. Mae'r newid yn dilyn symudiad llwyddiannus i'r system ePMA gyda'u ward mabwysiadu cynnar yn Uned Heddfan ym mis Rhagfyr.
Hefyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw'r bwrdd iechyd cyntaf i integreiddio ei system ePMA â'r Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR), gan sicrhau bod gwybodaeth am feddyginiaethau rhyddhau o'r ysbyty ar gael yn yr SMR. Mae hyn yn nodi dechrau cyflwyno cofnod cyfunol o feddyginiaethau, alergeddau ac anoddefiadau i bob claf yng Nghymru – carreg filltir bwysig i'r Rhaglenni Moddion Digidol cenedlaethol.
Digwyddodd y gweithrediad tra chydweithredol yn Ysbyty Maelor Wrecsam ganol mis Ionawr dros gyfnod o dridiau, lle bu timau clinigol yn cydweithio i drawsgrifio mwy na 600 o gleifion mewnol â llaw i'r system ddigidol, cyn mabwysiadu rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau electronig fel rhan o ofal cleifion arferol.
Dywedodd Lois Lloyd, Prif Fferyllydd: “Mae cyflwyno ePMA yn llwyddiannus yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn garreg filltir arwyddocaol o ran gwella diogelwch meddyginiaethau ac optimeiddio sut rydym yn defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi gofal cleifion.
"Mae hwn wedi bod yn ddarn cymhleth o waith, ac rydw i am gydnabod ymrwymiad a chydweithrediad timau fferyllfa, clinigol a digidol wrth wireddu hyn. Mae ePMA yn darparu llwyfan cryfach a mwy diogel ar gyfer rhagnodi a gweinyddu, ac mae'n cynrychioli cam pwysig ymlaen wrth foderneiddio rheoli meddyginiaethau ar gyfer ein cleifion.”
Dywedodd Ffion Thomas, Uwch Wybodegydd Clinigol (Nyrs Meddyginiaethau) yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC): “Braf oedd bod ar y safle yn Ysbyty Maelor Wrecsam i gefnogi cyfnod mynd yn fyw Dwyrain BIPBC. Fel nyrs plant o ran cefndir, roedd gweld y ward bediatrig gyntaf yng Nghymru yn symud i ePMA yn garreg filltir arwyddocaol i mi.
“Roedd yr egni, y gwaith tîm a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan dimau drwy gydol y penwythnos yn anhygoel, ac roedd yn fraint gweld a chefnogi cam mor fawr ymlaen mewn gofal digidol mwy diogel a di-dor i gleifion a staff.”
Dywedodd Martin Gallanders, Prif Reolwr Prosiect yn IGDC: “Bod ar y safle gyda staff Digidol a Gweithredol i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth newid i systemau a ffyrdd newydd o weithio yw’r hyn rydw i’n ei garu am fy swydd. Mae'r brwdfrydedd a'r parodrwydd gan bawb, gan gynnwys y staff gofal iechyd sydd wir eisiau croesawu'r newid, yn wych i'w weld a bod yn eu plith.
“Mae’n gyffrous iawn bod yn rhan o lansiad BIPBC lle mae meddyginiaethau rhyddhau yn llifo i’r Cofnod Meddyginiaethau a Rennir i ddechrau creu cofnod meddyginiaethau cyfunol o gleifion yng Nghymru.”
Mae IGDC yn gweithio gyda phob bwrdd iechyd yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i gyflwyno ePMA fesul cam, gyda phawb yn gwneud cynnydd cyffrous tuag at weithredu meddalwedd newydd mewn ysbytai. Darllenwch y diweddariadau diweddaraf ar ein tudalennau gwe Moddion Digidol.