Neidio i'r prif gynnwy

Ydych chi'n rhoi meddyginiaethau? Mae'r e-Lyfrgell eich angen chi!

1 Gorffennaf 2021

Ydych chi'n ymwneud â rhagnodi neu roi meddyginiaethau? Ydych chi'n addysgu, hyfforddi, neu gefnogi eraill mewn e-adnoddau sy'n gysylltiedig â Gwybodaeth am Feddyginiaethau? Mae angen eich help chi ar yr e-Lyfrgell Iechyd.

Mae e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru yn cynnal Prawf Defnyddioldeb ar gyfer yr e-adnodd Gwybodaeth am Feddyginiaethau. Bydd y prawf yn rhedeg tan hanner nos ar 4 Gorffennaf 2021.

Bydd yr arolwg yn cymryd oddeutu 30 munud i'w gwblhau. Bydd gofyn i chi adolygu'r holl gynhyrchion a rhaid i chi brofi'r holl gynhyrchion yn yr arolwg gan na ellir cyfrif ymatebion anghyflawn.