29 Gorffennaf 2024
Mae cydweithwyr o IGDC a GIG Cymru wedi bod yn dathlu ar ôl graddio o’r cwrs trawsnewid iechyd digidol cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Fe wnaeth y garfan gyntaf o fyfyrwyr i gychwyn ar y cwrs MSc mewn Trawsnewid Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal fynychu seremoni raddio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) i ddathlu eu cyflawniad.
Roedd James Goddard, Arweinydd E-Rhagnodi mewn Ysbytai yn IGDC, ymhlith y rhai a raddiodd o’r garfan gyntaf hon.
Dywedodd: “Rwy’n falch o fod wedi pasio’r MSc hwn - roedd hi’n bell o fod yn hawdd. Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb rydw i wedi cyfarfod a rhwydweithio â nhw ac i bawb sydd wedi fy nghefnogi ar hyd y ffordd.
“Roedd hi’n werthfawr tu hwnt medru defnyddio beth roedden ni’n ei ddysgu a’i roi ar waith ar yr un pryd.”
Dywedodd Geraint Walker, Gwybodegydd Clinigol Gofal Critigol yn IGDC: “Mae’r cwrs wedi fy helpu i wella fy sgiliau presennol yn ogystal â dysgu sgiliau newydd i mi a all fy helpu wrth asesu anghenion clinigol a llifoedd gwaith.
“Hefyd, fel rhan o’r rôl fel gwybodegydd clinigol, mae’n rhaid i ni eirioli a chefnogi addysg systemau a thechnoleg newydd. Fel rhan o’r cwrs, mae wedi fy helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth ac wedi fy helpu i deimlo’n fwy gwybodus a grymus wrth gefnogi trawsnewid digidol.”
Dywedodd Gareth Cooke, Arweinydd Rhaglen Genedlaethol IGDC ar gyfer Caffael System Gwybodeg Radioleg (RISP) fod y cwrs wedi rhoi mewnwelediadau newydd iddo y gallai eu defnyddio yn ei rôl.
Mae’n egluro: “Roedd y cwrs yn heriol ac yn rhoi boddhad mawr, wrth i mi ddysgu am bynciau fel trawsnewid gwasanaethau trwy bobl, dadansoddeg data, gwneud penderfyniadau a gwella iechyd a lles gan ddefnyddio sgiliau digidol.
“Rhoddodd y cwrs fewnwelediad newydd i mi i ddamcaniaethau a chysyniadau digidol yr oeddwn yn gallu eu defnyddio yn fy rôl.
“Cafodd y cwrs ei gyflwyno’n rhithwir a gan fy mod yn astudio’n rhan-amser, fe wnaeth hyn fy ngalluogi i gydbwyso fy amser rhwng gweithio ac astudio.
“Roedd y darlithwyr yn gefnogol ac yn barod iawn i helpu, ac yn darparu adborth adeiladol yn rheolaidd ar gyfer aseiniadau. Un enghraifft o hyn oedd y modiwl dadansoddeg data, a oedd yn heriol i mi gan nad oeddwn wedi defnyddio meddalwedd SPSS o’r blaen fel offeryn i ddadansoddi data. Fe wnaeth arweinydd y cwrs fy nghefnogi, fy annog a fy helpu i ddysgu a deall sut i wneud hyn.
“Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy’n gweithio gyda systemau digidol neu a hoffai ddysgu am drawsnewid digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.”
Dywedodd Tracy Jones, nyrs ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Rydw i mor ddiolchgar am y gefnogaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a ganiataodd i mi gwblhau’r cwrs MSc, a’r tîm gwych presennol a blaenorol yn IGDC – yn enwedig Fran Beadle a Wendy Dearing. Fe wnaeth eu hymgyrch i wella gwybodeg alluogi’r cwrs hwn i gael ei gyflwyno.
“Gan mai ni oedd y garfan gyntaf roedd yna ambell anhawster ar hyd y ffordd, ond rydw i wedi dysgu cymaint. Er mai cwrs Meistr digidol yw hwn, bydd y sgiliau rwyf wedi eu dysgu yn cyfoethogi pob rhan o fy mywyd gwaith. Rwy’n falch iawn o fod yn Feistr Gwyddoniaeth gyda rhagoriaeth!”
Dywedodd Anna Harries, Pennaeth Nyrsio, Safonau Proffesiynol a Digidol yn Felindre: “Mae ymrwymiad y tair blynedd diwethaf i’r MSc wedi bod yn aruthrol i mi. Mae wedi bod yn anodd ar adegau i ffitio popeth i mewn i’r wythnos, ond fel grŵp mae’n bwysig cydweithio i gynnal morâl a ffocws.
“Rydw i wedi dysgu llawer ac rwy’n falch iawn ohonof fy hun a fy nghydweithwyr.”
Dywedodd Helen Williams, Nyrs Glinigol Arbenigol Gwybodeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae cwblhau fy MSc mewn Trawsnewid Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal wedi bod yn daith drawsnewidiol, gan roi gwybodaeth a sgiliau ymarferol i mi wella’r modd y darperir gofal iechyd.
“Mae’r profiad hwn nid yn unig wedi ehangu fy arbenigedd ond wedi fy ngrymuso i ddefnyddio technolegau digidol i wella gofal cleifion ac ysgogi newid yn fy rôl fel Nyrs Glinigol Arbenigol Gwybodeg.
“Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad diffuant i’m grŵp o gymheiriaid cefnogol, a safodd wrth fy ymyl o’r dechrau i’r diwedd, gan fy annog i ddyfalbarhau drwy’r heriau. Rydw i hefyd yn hynod ddiolchgar i fy ngoruchwyliwr prifysgol am yr arweiniad, y mentora a’r adborth adeiladol, a oedd yn ganolog wrth lunio fy nhraethawd hir.
“Hoffwn ddiolch o galon i’m cydweithwyr ac i bawb a gymerodd ran yn yr astudiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Roedd eich cydweithrediad a’ch mewnwelediadau yn werthfawr tu hwnt yn llwyddiant fy ngwerthusiad o Gofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR).
“Yn olaf, rwy’n hynod ddiolchgar i’m harweinydd Christian Smith, am ei arweiniad a’i gefnogaeth, ac am y cyfle i fod yn rhan o drawsnewid digidol ledled Cymru ac o fewn ein bwrdd iechyd. Mae ei anogaeth a’i gyngor ymarferol wedi bod yn hanfodol trwy gydol y broses hon.”
Dywedodd Sian Perry, Nyrs Gwybodeg Glinigol Pediatrig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Fe wnes i fwynhau astudio ar lefel MSc yn fawr a rhoddodd y radd hon fewnwelediad i mi i’r cyfoeth o wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen ar gyfer unrhyw newid neu welliant digidol mewn lleoliadau iechyd a gofal.
“Rydw i wedi gallu defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgwyd i adolygu’n feirniadol fanteision a heriau systemau digidol clinigol presennol ac yn y dyfodol yn fy ngweithle.
“Mae hefyd wedi rhoi’r hyder a’r wybodaeth i mi eiriol dros y plant, y bobl ifanc, eu teuluoedd, a’r staff pediatrig a fydd yn defnyddio’r systemau hyn.
“Dylai trawsnewid digidol gynnig llawer o fanteision ac rwy’n gobeithio defnyddio’r radd hon i sicrhau bod hyn yn digwydd.”
Y rhaglen hon yw’r cwrs cyntaf yn y DU i gael ei achredu yn erbyn meini prawf rhyngwladol mewn addysg gwybodeg feddygol.
Mae’r rhaglen wedi’i datblygu fel rhan o Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) ac mae PCYDDS wedi bod yn gweithio’n agos gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gefnogi myfyrwyr.