Neidio i'r prif gynnwy

Y Drindod Dewi Sant ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cydweithio i ysbrydoli a gyrru newid

11 Awst 2022

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo a darparu diwylliant o gofleidio newid drwy gymhwyster newydd a fydd yn uwchsgilio ac yn grymuso staff.

Wedi’i gyllido gan Athrofa Wybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI), mae’r Dystysgrif Llysgennad Newid wedi ei llunio ar gyfer unigolion sy’n dyheu am ddod yn Llysgenhadon Newid o fewn eu sefydliadau. Bydd yn galluogi cyfranogwyr i ennill sgiliau a all wneud effaith gadarnhaol o fewn eu rolau, drwy ddeall egwyddorion newid mewn sefydliad, a sut i ddylanwadu ar hynny.

Meddai’r Athro Wendy Dearing, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y Drindod Dewi Sant: “Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Athrofa Wybodaeth Ddigidol Cymru i yrru, ysbrydoli a grymuso newid, mae wrth galon popeth a wnawn. Gall Llysgenhadon Newid chwarae rhan gyffrous a gwerthfawr mewn helpu i drawsnewid a diogelu busnes, gyda’r hyder yn eu gwybodaeth a’u sgiliau i wybod y gallant wneud gwahaniaeth.

“Bydd y mewnwelediadau a’r cyfleoedd y byddant yn eu cael o ganlyniad i’r sesiynau hyn yn mynd yn bell tuag at roi’r galluoedd sydd eu hangen iddynt lwyddo mewn amgylchedd gwaith sy’n newid yn gyflym.”

Dwedodd Harriet Stone, Pennaeth Newid Busnes yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru: “Mae disgwyliadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau yn symud, gydag awydd cynyddol arnynt i weld eu systemau iechyd a gofal yn cael eu cynhyrchu ar y cyd. Nid yw cyflymder cyfredol buddsoddi mewn technoleg wedi mynd cyn gynted â gwelliannau mewn gwasanaethau digidol, sy’n golygu nad ydym ar hyn o bryd wedi ymsefydlu er mwyn llwyddo yn y dyfodol.

“Credwn mai drwy greu rhaglen achrededig i gynorthwyo sefydlu Llysgenhadon Newid ar draws GIG Cymru y gallwn helpu i greu rhwydwaith proffesiynol achrededig o lysgenhadon newid, a fydd â’r wybodaeth a’r dewrder sydd ei angen i siapio, dylanwadu a chychwyn newid digidol yn eu gweithleoedd.”

Drwy gofrestru ar y Dystysgrif Llysgennad Newid, bydd gan fyfyrwyr y cyfle i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai rhyngweithiol, a digwyddiadau rhwydweithio a rhannu, wrth ennill achrediad gan y Drindod Dewi Sant mewn datblygiad proffesiynol.

Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw’r ail sefydliad yn unig yng Nghymru i fod â rhaglen fewnol sydd wedi ei achredu gan Athrofa Rheolaeth ac Iechyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Derbyniodd y rhaglen Llysgennad Newid gymeradwyaeth gan y Bwrdd Cydnabod Dysgu ac Achrediad Blaenorol ym mis Mawrth 2022.  Bydd dysgwyr yn derbyn tystysgrif brifysgol lefel 6 sy’n werth 20 credyd ar ôl cwblhau asesiad sy’n cynnwys traethawd adfyfyriol, ac sy’n dangos eu dealltwriaeth a’u defnydd o’r dysgu.

Meddai Gary Metcalfe, Rheolwr Masnachol a Thiwtor Achredu o Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y Drindod Dewi Sant: “Teimlodd y bwrdd fod hyn yn rhaglen newid gynhwysfawr o safon uchel iawn ac yn enghraifft ym maes addysg rheoli newid.  Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd IGDC yn symud y rhaglen ymlaen ar draws y sefydliad ac yn chwilio am gyfleoedd iddi gael ei darparu ar draws y sector iechyd ehangach.”

Mae Sarah Ballinger yn Hyrwyddwr Newid Busnes i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac yn un o garfan gyntaf y cwrs hwn.

Meddai: “Yn fy rôl rwy’n helpu pobl i ddelio gyda newid, rwy’n eu helpu i addasu i ffyrdd newydd o weithio ac yn cynnig cymorth ac arweiniad. Rwy’ bob amser wedi meddwl bod gyda fi afael a dealltwriaeth dda o sut a pham mae pobl yn ymddwyn yn y ffordd maen nhw, ond roeddwn i eisiau rhoi fy nghredau ar brawf. Roeddwn i’n awyddus i ymchwilio i hyn drwy ddysgu rhagor am gymhlethdodau ymddygiad unigolion a deall sut galla’ i addasu fy nodweddion, fy agweddau a’m gweithredoedd fy hun i wella yn fy rôl gyfredol gyda chanlyniadau mwy cadarnhaol. Mae’r cwrs wedi fy nghyflwyno i brosesau clir, megis model 8 cam Kotter, ac wedi fy helpu i ddeall sut i gael y gorau o bobl a sefyllfaoedd.”

Drwy gwblhau’r dystysgrif hon, ychwanegodd Sarah ei bod yn bwriadu addasu ei rôl gyfredol, gan roi strwythur mwy clir iddi.

“Rwy’n bwriadu adfyfyrio llawer mwy ar fy ngweithredoedd fy hun a pheidio â bod ag ofn newid y ffordd rwy’ wedi gwneud pethau ers blynyddoedd lawer. Mae wedi fy ngwthio y tu hwnt i’r cyfarwydd, fel mae’r dywediad yn nodi: ‘Os nad yw’n eich herio, ni fydd yn eich newid.”

Mae’r Dystysgrif Llysgennad Newid yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd i holl weithwyr GIG Cymru ar gyfer 2022 – Mawrth 31ain 2023.

Yn achos staff cyfredol neu ddarpar staff sydd â diddordeb mewn datblygu eu dilyniant gyrfa a chefnogi eu sefydliad drwy lunio dull cyson tuag at newid a chyfathrebu, cysylltwch â jamie.parry@wales.nhs.uk a harriet.stone2@wales.nhs.uk os gwelwch yn dda i gael rhagor o wybodaeth am gofrestru ar y cwrs.